Newyddion S4C

Teyrngedau i dair merch a gafodd eu lladd mewn ymosodiad yn Southport

30/07/2024
Ymosodiad Southport

Mae enwau'r tair merch a gafodd eu lladd mewn ymosodiad yn Southport ddydd Llun wedi eu cyhoeddi.  

Roedd Bebe King, yn chwech oed, Elsie Dot Stancombe yn saith oed, ac Alice Dasilva Aguiar yn naw oed. 

Cafodd y tair eu trywanu tra roedden nhw mewn gweithdy dawns ar thema Taylor Swift.

Mae teulu Alice wedi ei disgrifio fel ei "tywysoges" 

Yn ôl yr Ysgrifennydd Gwladol dros Gymunedau ym Mhortiwgal, Jose Cesario, roedd gan Alice rieni o Bortiwgal a dywedodd eu bod yn dod o ynys Madeira, ac yn byw yn Southport ar hyn o bryd. 

Ychwanegodd bod eu rhieni wedi eu brawychu.  

Mewn datganiad, dywedodd teulu Bebe: “Ni all geiriau ddisgrifio'r golled enbyd sydd wedi taro ein teulu wrth i ni geisio dygymod â cholli ein merch fach, Bebe."

Mae'r heddlu yn parhau i holi bachgen 17 oed sy'n byw ym mhentref Banks, Sir Gaerhirfryn, ac wedi ei eni yng Nghaerdydd, wedi’r ymosodiad trywanu “ffyrnig” yn hwyr fore Llun.

Mae e wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio a cheisio llofruddio. Symudodd i'r ardal o Gaerdydd yn 2013.

Does dim modd cyhoeddi ei enw am resymau cyfreithiol.

Mae tair o ferched bellach wedi marw ac mae dau oedolyn hefyd mewn cyflwr difrifol, a phump o blant yn parhau mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty.

Y gred yw bod yr ymosodiad wedi digwydd yn ystod sesiwn ddawnsio a yoga i blant.

Ar gyfryngau cymdeithasol, mae pobl wedi canmol dewrder yr athrawes yoga Leanne Lucas wedi iddi gael ei hanafu yn yr ymosodiad. 

Ms Lucas oedd trefnydd y sesiwn, yn ôl neges ar Facebook. 

Dywedodd un llygad dyst, Colin Parry, sy'n berchen ar siop drws nesaf i safle'r ymosodiad, bod yr ymosodwr wedi cyrraedd mewn tacsi ac yna wedi gwrthod talu.

Yn ôl yr heddlu, dyw hi ddim yn ymddangos mai terfysgaeth oedd wrth wraidd yr ymosodiad.

Gwylnos 

Mae cannoedd o bobl wedi ymgynnull yn Southport nos Fawrth ar gyfer gwylnos i gofio am y merched sydd wedi marw a'r rhai sydd wedi eu hanafu. 

Mae Cyngor Sefton wedi disgrifio'r ymosodiad fel un o'r "diwrnodau mwyaf trist yn hanes y fwrdeistref."  

"Mae'n amser hynod o anodd i bobl Sefton," meddai arweinydd y cyngor Marion Atkinson," ond rwy'n gwybod y byddwn yn gryfach wedi hyn."  

Mae Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, Syr Keir Starmer wedi ymweld â Southport brynhawn Mawrth, ac mae e wedi diolch i'r gwasanaethau brys a gafodd eu galw yno yn hwyr fore Llun. 

"Rwy'n gobeithio eich bod yn teimlo balchder, wrth gynorthwyo mewn amgylchiadau anodd, a'r hyn wnaethoch chi ar gyfer y bywydau ifanc hynny,” meddai.

Yn ddiweddarach, gadawodd y Prif Weinidog dorch o flodau ger safle'r ymosodiad.  

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.