Cwpl o Gymru yn dod yn ail yn rhaglen deledu Love Island
Mae cwpl o Gymru wedi dod yn ail yn y rhaglen deledu Love Island.
Fe ddaeth Nicole Samuel, 24 o Aberdâr a Ciaran Davies sy'n 21 ac o Ben-y-Bont ar Ogwr yn gariadon ar ôl pum diwrnod ar y rhaglen. Pe bydden nhw wedi ennill nhw fyddai'r cwpl o Gymru gyntaf i wneud hynny.
Ond Mimii Ngulube a Josh Oyinsan ddaeth i'r brig gan ennill y wobr ariannol o £50,000.
Mae'r ddau wedi eu canmol am y ffordd roedden nhw yn cynrychioli Cymru.
Yn ystod y gyfres byddai Nicole yn aml yn gofyn i'r gweddill am 'gwtsh' ac roedd rhai o'r cystadleuwyr eraill yn defnyddio'r gair wedyn.
Fe wnaeth Ciaran addurno rhan o'r villa mewn lliwiau fflag Cymru hefyd ar gyfer eu dêt olaf.
Mae ffigyrau gwylio Love Island wedi disgyn yn y blynyddoedd diwethaf. Ond fe ddywedodd ITV, sy'n cynhyrchu'r rhaglen, bod tua 2 filiwn wedi gwylio pennod gyntaf y gyfres yma. 1.3 miliwn oedd y ffigwr y llynedd.
Llun: ITVX