Grant o £50,000 i Gapel Tabernacl Treforys i ddelio â heriau Covid-19
Bydd un o adeiladau mwyaf hanesyddol Abertawe yn elwa o grant gwerth £50,330.
Mae'r arian wedi ei ddyfarnu i Gapel y Tabernacl Treforys er mwyn "helpu i wynebu heriau'r pandemig".
Yn ôl Cyngor Abertawe, bydd yr arian yn helpu gyda'r golled incwm mae'r capel wedi ei wynebu dros y cyfnod diweddar, gyda bron bob grŵp cymunedol wedi rhoi'r gorau i gwrdd yno dros y pandemig.
Daw'r grant gan Gronfa Adferiad Diwylliannol Llywodraeth Cymru ar gyfer y sector treftadaeth, ac mae'n dilyn dyfarniad blaenorol o £64,200 gafodd y capel, sy'n adeilad rhestredig Gradd I, yn gynharach eleni.
Dywedodd Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth: "Rydym yn gweithio'n galed gyda phartneriaid i sicrhau bod y Tabernacl yn rhan bwysig o'r gymuned am flynyddoedd lawer i ddod - a bydd y gefnogaeth hon yn helpu."
Llun: Google