Mesurau diogelwch dwys mewn grym wrth i Baris gynnal y Gemau Olympaidd
Mesurau diogelwch dwys mewn grym wrth i Baris gynnal y Gemau Olympaidd
Tu hwnt i'r cyffro, y rhwysg a'r seremoni,dyma i chi ddinas sydd ar bigau'r drain. Gyda llygaid y byd yn gwylio mae cadw pawb yn ddiogel yn anghenraid, ond mae hi'n gyfnod dyrys.
"Ni'n gweld bod lefel terfysgaeth yn Ffrainc ar lefel uchaf .a hynna ers ychydig fisoedd erbyn rŵan, ond ar ben hynny, mae'r Gemau Olympaidd yma, mae o'n codi llawer iawn o gwestiynau o ran diogelwch hefyd."
'Dach chi eich hunain neu eich cariad chi, ffrindiau chi 'di cael profiad eitha ysgytwol o ran diogelwch.
"Do, glywsom ni am fy nghyn-fos i, roedd hi 'di cael galwad gan ysgol hi yn deud bod 'na bomb scare yn ysgol ei phlant hi.
"Felly, oedd hynna'n un ohonyn nhw. "Mae 'nghariad i hefyd, ga'th o bomb scare pan oedd o'n gweithio yn y brifysgol yr UNAM yn fan hyn, ym Mharis.
"Felly, 'dan ni'n gweld bod hyn yn digwydd yn aml yn fwy a fwy aml o ran y Gemau Olympaidd. Mae 'na bobl yn deud - mae'r Gemau Olympaidd yma. Mae o'n mynd i fod yn rheswm i rywun roi bom yn yr ardal oherwydd mae'r llygaid i gyd yn mynd i fod ar Baris."
Wrth gerdded ar hyd strydoedd y ddinas mae presenoldeb peth o'r 45,000 o swyddogion diogelwch yn amlwg. Gyda bygythiadau cyson mae'r ddinas hon yn paratoi at y gwaethaf.
"Dyw Ffrainc ddim yn gallu bod yn annibynnol ac yn delio gyda fe ar ben ei hun. Ma' nhw wedi gofyn am luoedd o sawl gwlad ar draws y byd i ddod mewn.
"Wnes i weld ryw lori gyda number plates Almaeneg da heddweision ynddo fe bore 'ma tra'n mynd a fy mhlant i'r creche."
Mi fydd yna gysgod dros y Gemau Olympaidd be bynnag fydd yn digwydd. Bydd jyst yn rhaid bod yn wyliadwrus dros ben. Ymhen dyddiau, mi fydd y seddi hyn ar hyd y Seine yn dechrau llenwi.
Wedi pryder am safon y dŵr daeth cadarnhad yr wythnos ddiwethaf y bydd digwyddiadau yn cael eu cynnal yma wrth i'r gwaith i atal llygredd fynd rhagddo.
'Mond wrth gerdded ar hyd strydoedd y ddinas 'dach chi'n sylwi pa mor enfawr ydy'r paratoadau. Neuadd y ddinas tu ol i mi wedi cael ei thrawsnewid yn llwyr.
I'r rheiny sy'n byw yma - yndi, mae o'n creu anghyfleustra.
"Dros y deng mlynedd diwethaf mae cymaint o ymosodiadau wedi bod yn Ffrainc, gwaetha'r modd. Unwaith eto, gwaetha'r modd 'mond angen un person i gyflawni gweithred o frawychedd sydd er mwyn sbwylio'r cyfan.
"Mae hynny'n amlwg yn rhywbeth mae'r Parisians a'r Ffrancwyr yn ymwybodol ohono fe. Dyna pam mae 'na gymaint o heddweision ac aelodau o'r gendarme a hefyd, y fyddin yn mynd i fod ym Mharis dros y Gemau Olympaidd."
Gyda disgwyl i athletwyr deithio ar gychod ar hyd y Seine mae'r strydoedd cyfagos bellach dan glo gyda mesurau diogelwch caeth i unrhyw un sydd am gerdded mewn ardaloedd cyfagos.
"Paris 1924, the next Olympic games."
Mae 'na 100 mlynedd union ers i'r ddinas hon gynnal y Gemau Olympaidd ddiwethaf. Ers hynny, mae lot wedi newid a'r bygythiad o ran diogelwch erioed 'di bod mor fawr.
Mae'r gost felly, yn sylweddol a'r her yn enfawr wrth i Baris groesawu'r byd i garreg yr aelwyd.