Newyddion S4C

Heddwas yn gwadu achosi niwed corfforol i ddyn ifanc ger clwb nos ym Mangor

26/07/2024
Cube Bangor

Mae heddwas wedi gwadu achosi niwed corfforol i ddyn ifanc y tu allan i glwb nos ym Mangor wrth ymddangos o flaen Llys y Goron ddydd Gwener.

Fe wnaeth y Cwnstabl Ellis Thomas, 24, o Gaerwen ar Ynys Môn, ymddangos o flaen llys wedi ei gyhuddo o achosi niwed corfforol difrifol i Harley Murphy, 17 oed, ger Clwb nos Cube.

Digwyddodd yr ymosodiad honedig ym mis Ionawr 2023.

Dechreuodd ymchwiliad Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu ym mis Chwefror 2023 ar ôl i'r mater gael ei gyfeirio atynt gan Heddlu Gogledd Cymru. 

Ar ddiwedd yr ymchwiliad dros gyfnod o bum mis, anfonwyd ffeil o dystiolaeth i Wasanaeth Erlyn y Goron, sydd wedi awdurdodi'r cyhuddiad yn erbyn y swyddog.

Wrth i Ellis Thomas ymddangos o flaen Llys y Goron Caernarfon, a oedd yn eistedd yn llysoedd y gyfraith yn Llandudno, fe wnaeth y barnwr Nicola Saffman ei ryddhau ar fechnïaeth.

Fe fydd yr achos llys ar 9 Rhagfyr a dywedodd yr erlynydd Michael Whitty bod yr heddwas wedi ei atal o’i waith yn y cyfamser.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.