Newyddion S4C

‘Ymchwiliad troseddol’ i benderfyniad yr heddlu i fwrw buwch â char

26/07/2024
Y llo

Mae penderfyniad heddlu yn Lloegr i fwrw buwch a oedd wedi dianc gyda char bellach yn destun ymchwiliad troseddol.

Cafodd Heddlu Surrey eu beirniadu yn llym wedi i ddelweddau gael eu cyhoeddi ar-lein o lo 10 mis oed yn cael ei fwrw â char ar ôl hanner nos ar 15 Mehefin yn nhref Staines-upon-Thames.

Ddydd Iau fe gyhoeddodd y llu eu bod nhw wedi ymweld â 290 o dai, wedi cysylltu â 75 o lygaid dystion a derbyn 250 o glipiau fideo.

Dywedodd y Dirprwy Brif Gwnstabl Nev Kemp ei fod bellach yn ymchwiliad troseddol a’n ymchwiliad mewnol i gamymddwyn.

“Mae’r diweddariad sylweddol hwn yn dangos pam fod ymchwiliad trylwyr yn bwysig, gan ei fod yn sicrhau bod pob mater troseddol a chamymddwyn posibl yn cael ei ddeall yn iawn,” meddai. 

“Mae hyn, wrth gwrs, yn cymryd amser.”

‘Creulon’

Dywedodd Heddlu Surrey ar y pryd bod swyddogion wedi rhoi cynnig ar nifer o ffyrdd i ddal y llo, o’r enw Beau Lucy. 

Roedd adroddiadau ei fod yn rhedeg at aelodau o’r cyhoedd ac wedi difrodi car, cyn i’r penderfyniad gael ei wneud i’w atal trwy rym drwy ddefnyddio car heddlu.

Dywedodd perchnogion y llo, sydd wedi ei henwi fel Rob a Kate yn unig, eu bod nhw’n pryderu bod yr heddlu wedi ymdrin â’r mater mewn modd “creulon a barbaraidd”.

Cafodd y fuwch ei dychwelyd i fferm Rob, a leolir ger y ffin rhwng Surrey a Middlesex, gyda chleisiau, ac ers hynny mae wedi bod yn dod ato’i hun.

Rhan o fideo gan Kai Bennetts o'r llo ar ffo yn Essex.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.