
12,000 o fabanod mewn tlodi wedi cael cymorth gan fanc babanod yng Nghymru
Mae bron i 12,000 o fabanod a phlant sy’n byw mewn tlodi yng Nghymru wedi cael cymorth gan fanc babanod yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, medd cynghrair o elusennau.
Yn ôl gwaith ymchwil gan Gynghrair Banciau Babanod, cafodd 11,889 o fabanod a phlant eu cefnogi gan fanc babi yng Nghymru'r llynedd.
Mae banciau babanod wedi darparu dros 18,700 o eitemau fel dillad cynnes, llyfrau, nwyddau ymolchi babanod ac offer i deuluoedd yn ystod y cyfnod hwnnw, medd yr elusennau.
A hithau'n dweud iddi gael ei heffeithio gan yr argyfwng costau byw, mae Vicky a’i mab Archie, sydd yn naw mis oed, wedi derbyn cymorth gan fanc babanod ‘Splice Children and Family Project Ltd’ ym Mhen-y-bont ar Ogwr ers i Archie fod yn faban deufis oed.
“Gyda’r argyfwng costau byw ar hyn o bryd doedd dim ots faint o arian roedden ni’n llwyddo i’w gynilo, doedd e byth yn ddigon,” meddai.
“Rwy'n gweithio mewn archfarchnad felly rwyf wedi gweld y prisiau'n newid, mae pethau syml fel ffa pôb wedi mynd o 40c i 80c.
“Mae'r holl bethau hyn yn adio i fyny, mae'n anodd.”
'Gweithredu'
Dywedodd trefnydd plant a theuluoedd prosiect ‘Splice’, Tracey Morgan, ei bod yn awyddus i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU gweithredu er mwyn mynd i’r afael a’r cynnydd yn y nifer o bobl sydd yn defnyddio banciau babanod.
Mae banciau babanod ledled y DU wedi gweld cynnydd o 54.4% yn yr alwad ar gyfer eu gwasanaethau rhwng 2021 a 2023, medd Cynghrair Banciau Babanod.
Mae gan y gynghrair dros 150 o aelodau banc babanod.
Wedi'i ffurfio gan Save the Children UK, Purposeful Ventures, Little Village a'r Baby Bank Network Bryste, mae'r gynghrair yn ceisio cynyddu mynediad at gyllid, nwyddau a gwirfoddolwyr ar gyfer y 300 a mwy o fanciau babanod yn y DU.
Dywedodd y gynghrair hefyd bod ffigyrau gan 148 o fanciau babanod yn dangos bod 199,180 o fabanod a phlant sy’n byw mewn tlodi ledled y DU ac Ynysoedd y Sianel wedi derbyn cefnogaeth gan fanc babi yn 2023.

Byw mewn tlodi
Gyda bron i un o bob tri phlentyn yng Nghymru yn byw mewn tlodi, maen nhw bellach yn galw ar Lywodraeth y DU i gael gwared â’r cap ar fudd-dal lles dau blentyn – rhywbeth maen nhw yn ei ddweud sy’n un o brif achosion y cynnydd mewn tlodi plant.
Mae'r budd-dal lles dau blentyn yn atal bron pob rhiant rhag hawlio Credyd Cynhwysol neu gredyd treth plant ar gyfer mwy na dau o blant.
Daw galwadau’r elusen wedi i Syr Keir Starmer wedi gwahardd saith Aelod Seneddol Llafur o'r blaid ar ôl iddyn nhw bleidleisio yn erbyn y Llywodraeth gan alw am ddileu’r cap nos Fawrth.
Dywedodd Sophie Livingstone, Cadeirydd Cynghrair Banciau Babanod: “Gyda chyfraddau tlodi plant ystyfnig o uchel, ni fu erioed amser pwysicach i fanciau babanod uno fel y gallant barhau i gyrraedd y teuluoedd sydd eu hangen ac i wneud yn siŵr bod llywodraeth newydd y DU yn gwneud mynd i’r afael â thlodi plant yn flaenoriaeth.”
Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn "edrych ymlaen" at gydweithio gyda Llywodraeth newydd y DU er mwyn mynd i'r afael a thlodi plant.
"Mae ein Strategaeth Tlodi Plant newydd yn nodi ein huchelgeisiau ar gyfer yr hirdymor ac yn amlinellu sut y byddwn yn gweithio ar draws y Llywodraeth a chyda phartneriaid i wneud y mwyaf o effaith y dulliau sydd ar gael i ni," medden nhw.
"Rydym yn edrych ymlaen at weithio ar hyn gyda Llywodraeth newydd y DU."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU: “Ni ddylai unrhyw blentyn fod mewn tlodi ac mae’r ddibyniaeth eang ar fanciau babanod yn annerbyniol.
“Dyna pam y bydd ein tasglu gweinidogol traws-lywodraethol newydd yn dechrau ar y gwaith brys o ddatblygu strategaeth tlodi plant uchelgeisiol, er mwyn sicrhau bod pob plentyn ar draws y wlad yn cael y dechrau gorau ag y gallen nhw mewn bywyd.”