Newyddion S4C

Pwy yw Eluned Morgan, Prif Weinidog tebygol nesaf Cymru?

24/07/2024

Pwy yw Eluned Morgan, Prif Weinidog tebygol nesaf Cymru?

Wrth wynebu'r ymchwiliad Covid-19 ym mis Mawrth datgelwyd bod Eluned Morgan wedi ymateb mewn ffordd braidd yn ddi-flewyn ar dafod i’r pandemig.

Roedd yr Ysgrifennydd Iechyd wedi gyrru neges destun at ei chyd-weithwyr yn dweud yn blaen: “Da ni’n ff***ed!”

Ymddiheurodd bryd hynny gan ddweud ei bod yn ferch i ficer a bod ei gŵr, sy’n feddyg teulu, yn offeiriad hefyd.

Ac i raddau mae cefndir y Farwnes Morgan o Elai o fewn y Blaid Lafur, a'i thaith i fod yn Brif Weinidog nesaf Cymru, wedi bod yn un digon traddodiadol.

Fel y mae ei theitl yn Nhŷ’r Arglwyddi yn ei awgrymu cafodd ei magu yng ngorllewin Caerdydd, cadarnle gwleidyddol y cyn Brif Weinidogion Rhodri Morgan a Mark Drakeford.

Mae hi hefyd wedi bod yn rhan o wleidyddiaeth Cymru ers dros 30 mlynedd, gan gynrychioli tair senedd-dy gwahanol.

Dechreuodd ei gyrfa gan dorri tir newydd - hi oedd yr aelod ieuengaf o Senedd Ewrop ar ôl cael ei hethol yn 1994, yn 27 oed yn unig.

Gadawodd Senedd Ewrop yn 2009 a mynd i weithio i gwmni SSE fel cyfarwyddwr yng Nghymru, cyn cael ei hurddo yn aelod o Dŷ’r Arglwyddi am oes yn 2011. 

Yna yn etholiad y Senedd yn 2016 fe gafodd ei hethol ar frig rhestr y Blaid Lafur yn aelod o’r Cynulliad dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru.

Yno y mae hi wedi bod ers hynny yn cyflawni sawl swydd bwysig o fewn Llywodraeth Cymru gan gynnwys gweinidog yr iaith Gymraeg, gweinidog iechyd meddwl ac ers 2021 yn y Cabinet yn swydd yr Ysgrifennydd Iechyd.

Cyntaf

Er ei bod wedi bod yn rhan o’r sefydliad gwleidyddol ers degawdau, yn ystod ei hymgyrch arweinyddol bresennol mae wedi ei chyflwyno ei hun fel rhywun a fydd yn gwneud pethau yn wahanol.

“Nid ydym erioed wedi cael Prif Weinidog sy’n cynrychioli etholaeth neu ranbarth y tu allan i dde Cymru,” meddai yn lansiad ei hymgyrch ddydd Llun.

Dyma’r ail waith iddi sefyll ar ôl rhoi ei henw ymlaen yn 2018 a dod yn drydydd y tu ôl i’r ymgeisydd buddugol Mark Drakeford, a Vaughan Gething yn yr ail safle.

Does dim peryg o hynny y tro yma. Mae disgwyl bellach mai hi fydd Prif Weinidog nesaf Cymru heb wynebu etholiad wedi iddi sefyll yn ddiwrthwynebiad i fod yn arweinydd y Blaid Lafur yng Nghymru.

Dyma fydd y newid arweinyddiaeth cyntaf i Lafur Cymru heb ornest ers 2000 pan gymerodd Rhodri Morgan le Alun Michael, ar ôl cyfnod tebyg o wrthdaro mewnol.

Ond fel ar ddechrau ei gyrfa pan dorrodd dir newydd o ran ei hoed, mae disgwyl iddi rwan gyflawni rhywbeth arall sydd heb ei weld o'r blaen, sef bod yn Brif Weinidog benywaidd cyntaf Cymru.

Ac yn wir, y gwleidydd Llafur benywaidd cyntaf i gael ei hethol yn arweinydd unrhyw un o lywodraethau y DU.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.