Newyddion S4C

Rhybudd wedi i ddyn syrthio i afon ger maes y sioe yn Llanelwedd

Heddlu yn y Sioe Frenhinol

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn rhybuddio bobol sy'n ymweld â'r Sioe Fawr yn Llanelwedd ac ardal Llanfair y Muallt i fod yn yn ofalus o gwmpas yr afon wedi digwyddiad nos Sul.

Cafodd yr heddlu eu galw i gynorthwyo wedi i un o fugeiliaid y stryd sylwi fod dyn wedi syrthio i mewn i afon Gwy. 

Cafodd ei achub ar ôl cael ei ddarganfod mewn man dwfn lle roedd yr afon yn llifo'n gyflym.  

Dywedodd y Prif Arolygydd Gareth Grant: “Chafodd y dyn ddim niwed, yn bennaf oherwydd gweithredoedd bugeiliaid y stryd a ddaeth atom, yn ogystal ag ymateb cyflym ein swyddogion.

“Yn dilyn y digwyddiad hwn, rydym yn atgoffa bobol sydd yn yr ardal ar gyfer Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru i gymryd gofal, tra'n cerdded i faes y sioe ac oddi yno.

“Efallai nad yw ymwelwyr yn ymwybodol o'r peryglon, gydag afon Gwy yn ddwfn a'r cerrrynt yn gryf yn yr ardal, sy'n golygu ei bod yn anodd iawn camu allan ohoni.

“Mae llwybr gwyrdd wedi ei nodi rhwng y sioe, y pentref ieuenctid, Fferm Penmaenau a thref Llanfair ym Muallt. Defnyddiwch hwn os gwelwch yn dda yn hytrach nag unrhyw lwybr arall, er lles eich diogelwch." 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.