Newyddion S4C

'Ffermio oedd ei fywyd': Teyrnged i ddyn o Geredigion a fu farw mewn digwyddiad ar fferm

23/07/2024
Hugh Tudor
Mae teulu ffermwr o Geredigion a fu farw'r wythnos ddiwethaf ar ôl digwyddiad gyda beic cwad amaethyddol wedi rhoi teyrnged iddo.
 
Roedd Hugh Tudor yn 65 oed ac yn ffermio gyda’i wraig Ann yn Tynberllan, Llanilar ers dros 40 mlynedd. 
 
Mewn datganiad, dywedodd ei deulu ei fod yn "dad arbennig i Sara, Lowri a’r diweddar Gwenno. Yn fab i’r diweddar Tom a Sybil Tudor, Glanystwyth a brawd i Richard".
 
Bu farw merch Hugh ac Ann Tudor, Gwenno Fflur Tudor yn 18 oed mewn gwrthdrawiad ffordd yn 2014.
 
"Ffermio oedd ei fywyd ond roedd hefyd yn eang ei ddiddordebau ac yn weithgar iawn yn ei ardal leol a thu hwnt," meddai'r teulu. 
 
"Mae colled enfawr ar ei ôl.
 
"Fel teulu rydym yn diolch i bawb am eu cefnogaeth a’i caredigrwydd yn ystod y cyfnod anodd hwn."
 
Wrth agor y Sioe Frenhinol ddydd Llun, fe gyfeiriodd Llywydd Senedd Cymru, Elin Jones at farwolaeth Mr Tudor, a'r golled i'r ardal a'r byd amaethyddol yn ehangach.
 
Dywedodd: “Cardi arall o ffermwr a fyddai wedi bod yn y sioe yma eleni a phawb yn ei nabod e, sef Hugh Tudor. 
 
“Ergyd fawr oedd y newyddion o Llanilar ychydig ddyddiau yn ôl.”
 
Llun gan y Teulu
 
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.