Newyddion S4C

Rhys ab Owen wedi ei ddiarddel o Blaid Cymru

22/07/2024
Rhys ab Owen

Mae’r aelod o Senedd Cymru Rhys ab Owen wedi ei ddiarddel o Blaid Cymru, meddai’r blaid.

Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru fod y penderfyniad wedi ei wneud wedi proses ddisgyblu mewnol.

“Yn dilyn cyhoeddi adroddiad safonau’r Senedd, mae proses ddisgyblu fewnol wedi bod o fewn Plaid Cymru,” medden nhw.

“O ganlyniad, mae ei aelodaeth ei blaid wedi’i therfynu, ac ni fydd yn gymwys i ail-ymgeisio am gyfnod o ddwy flynedd o leiaf."

Mae'n golygu na fydd yn gallu sefyll eto yn etholiad Senedd Cymru yn 2026.

Cafodd Rhys ab Owen ei wahardd gan y Senedd am chwech wythnos ym mis Mawrth yn dilyn ymchwiliad gan y Comisiynydd Safonau, Douglas Bain i ymddygiad y gwleidydd ar noson allan.

Mae Rhys ab Owen, sy'n cynrychioli rhanbarth Canol De Cymru, wedi bod yn eistedd fel aelod annibynnol o'r Senedd, wedi iddo gael ei wahardd o grŵp Plaid Cymru yn y Senedd.

'Gweithio'n galed'

Wrth ymateb dywedodd Rhys ab Owen bod y penderfyniad "yn derfyn ar broses hir, fydd gobeithio yn golygu bod modd dod â'r mater yma i ben".

"Byddaf yn parchu'r penderfyniad, fel bod modd i mi a fy nheulu edrych tua'r dyfodol," meddai.

"Fel yr wyf wedi ei wneud o'r dechrau, byddaf yn parhau i weithio'n galed ar ran pobl fy etholaeth. Dwi'n falch o gael y cyfle i wneud hynny, ac rwyf wedi ymroi yn llwyr i wasanaethu pobl Canol De Cymru.

"Fy ngwraig a fy mhlant yw fy mlaenoriaeth, a hoffwn ddiolch iddyn nhw am eu cariad a'u cefnogaeth."

Pan ddaeth ei waharddiad i ben ym mis Mai, dywedodd Mr ab Owen wrth y Senedd ei fod yn dymuno ymddiheuro.

Roedd yn agos i ddagrau tra'n diolch i'w wraig a'i deulu am eu cefnogaeth, gan ddweud ei fod wedi gwneud "newidiadau personol sylweddol."  

"Roedd fy ymddygiad ar y noson yna ymhell islaw y safon sydd i'w ddisgwyl gan swyddog cyhoeddus." meddai.

"Cefais i ormod i yfed y noson honno a fe wnes i ymddwyn yn wael.

"Rwy'n cymryd cyfrifoldeb am fy ymddygiad a chanlyniadau'r ymddygiad yna."

Dywedodd ei fod yn derbyn y gosb ond fod ganddo amheuon am y modd y gwnaed y penderfyniad, a'r ffaith ei fod wedi cymryd gymaint o amser. Roedd ganddo hefyd amheuon am dryloywder y broses, meddai.

Ychwanegodd nad oedd modd iddo herio'r broses ar wahan i adolygiad barnwrol, fyddai'n eithriadol o ddrud.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.