Newyddion S4C

Pennaeth Adran Pelydrau CERN yn cael y Fedal Wyddoniaeth

 Dr Rhodri Jones, pennaeth Adran y Pelydrau yng nghanolfan CERN

Gwneud yn siŵr bod pelydrau’n rhedeg yn gyflym a chywir mewn peiriant anferth yw gwaith enillydd Medal Gwyddoniaeth a Thechnoleg yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.

Mae Dr Rhodri Jones yn bennaeth Adran y Pelydrau yng nghanolfan CERN, canolfan ymchwil niwclear. Ei waith o ddydd i ddydd ydy sicrhau bod y pelydrau gronynnau sy’n cael eu pingio o amgylch y peiriant yn taro’i gilydd yn gywir.

Gwrthdarwr Hadron Mawr (LHC) yw’r enw ar y peiriant sydd yn 17 milltir o hyd. Mae’r peiriant wedi ei gladdu o dan y ddaear yn y ganolfan. 

“Mae wedi ei ddisgrifio fel ceisio taflu dwy nodwydd gwau at ei gilydd o bob ochr i Fôr yr Iwerydd a sicrhau bod y pwyntiau’n cwrdd, felly mae’n eithaf anodd,” meddai.

“Ond drwy weithio fel tîm rydyn ni wedi dangos y gellir ei wneud ac rydyn ni wedi cadw ein safonau uchel i sicrhau bod yr pelydrau yn gwrthdaro’n union ble a phryd rydyn ni am iddyn nhw wneud hynny. 

“A gobeithio y bydd hyn yn ein helpu i egluro pethau fel mater tywyll yn y pendraw, y pethau sy’n ymddangos fel petaen nhw’n ffurfio’r rhan fwyaf o’r bydysawd ond na allwn eu gweld, am ryw reswm, ar hyn o bryd.” 

O Sir Gaerfyrddin yn wreiddiol y daw Rhodri Jones ond fe dreuliodd ei blentyndod cynnar yn yr Iseldiroedd. Fe symudodd y teulu wedyn i Gaergrawnt. Yn 1989 fe ddaeth yn ôl i Gymru i astudio Ffiseg ym Mhrifysgol Abertawe.

Fe ymunodd gyda chanolfan CERN yn 1996 ac mae wedi bod yn bennaeth Adran y Pelydrau ers 2021. Mae’n byw yn Ffrainc gyda’i wraig Sharon a’u pedair merch ac mae’r teulu yn siarad Cymraeg.

Mae’r fedal yn cael ei rhoi i unigolyn i gydnabod a dathlu ei cyfraniad i’r diwydiant gwyddoniaeth a thechnoleg. Bydd yn cael ei chyflwyno i Dr Rhodri Jones brynhawn dydd Iau, 8 Awst yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.