Newyddion S4C

Joe Biden yn tynnu allan o’r ras arlywyddol

Joe Biden

Mae Joe Biden wedi cyhoeddi ei fod am dynnu allan o’r ras arlywyddol yn yr UDA.

Roedd Mr Biden, sy’n 81 oed, wedi mynnu’n flaenorol taw ef oedd yr ymgeisydd gorau i drechu Donald Trump yn yr etholiad ar ddiwedd y flwyddyn.

Ond mae’r pwysau wedi cynyddu arno i gamu o’r neilltu.

Fe wnaeth dau o aelodau blaenllaw o'r Blaid Ddemocrataidd yn Senedd America fynegi pryderon am ymgyrch arlywyddol Mr Biden.

Cafodd y pryderon eu mynegi gan arweinydd y Democratiaid yn y Senedd Americanaidd, Chuck Schumer, ac Arweinydd Lleiafrif y Tŷ, Hakeem Jeffries, sydd wedi cyfarfod â Mr Biden yn unigol i fynegi pryderon am ei ymgyrch i gyrraedd y Tŷ Gwyn ar gyfer ail dymor.

Mae Nancy Pelosi, cyn lefarydd Tŷ’r Cynrychiolwr, hefyd wedi dweud wrtho’n breifat na all guro Donald Trump yn yr etholiad ym mis Tachwedd, yn ôl gwasanaeth newyddion CNN.

Fe fydd yn rhaid i’r Blaid Ddemocrataidd nawr ddewis rhywun arall i sefyll i herio Mr Trump.

Un o’r ffefrynnau fydd y dirprwy arlywydd presennol Kamala Harries.

Mewn llythyr agored i'r genedl dywedodd Mr Biden: "Mae wedi bod yn anrhydedd mwyaf fy mywyd i wasanaethu fel eich Arlywydd. 

"Ac er mai fy mwriad oedd ceisio cael fy ailethol, credaf ei bod er lles gorau fy mhlaid a’r wlad i mi sefyll i lawr a chanolbwyntio’n llwyr ar gyflawni fy nyletswyddau fel Arlywydd am weddill fy nghyfnod."

Mewn datganiad diweddarach dywedodd Mr Biden ei fod yn enwebu Kamala Harris fel dewis ei blaid.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.