Boris Johnson yn amlinellu llacio pellach i'r cyfyngiadau yn Lloegr

Mae disgwyl i gyfres o fesurau yn cael eu llacio yn Lloegr ar 19 Gorffennaf wrth i Boris Johnson amlinellu ei gynlluniau am lacio'r cyfyngiadau yn y wlad.
Fe fydd penderfyniad terfynol yn cael ei gymryd am lacio'r cyfyngiadau yn Lloegr ar 12 Gorffennaf.
Fel rhan o'r newidiadau tebygol, fe fydd y rheidrwydd cyfreithiol i wisgo mygydau yn cael ei godi, fe fydd y cyngor i weithio o adref yn cael ei ddiddymu ac ni fydd cyfyngiadau ar y nifer o bobl all gwrdd a'r rheol ar bellhau'n gymdeithasol yn parhau.
Ond, fe bwysleisiodd Prif Weinidog y Deyrnas Unedig nad oedd y pandemig ar ben ac na fyddai'n dod i ben ar 19 Gorffennaf chwaith, yn ôl The Sun.
Darllenwch y diweddaraf ar y cyfyngiadau yn Lloegr yma.
Llun: Pippa Fowles / Rhif 10 Downing Street (drwy Flickr)