Newyddion S4C

Torfeydd wedi heidio i Lanberis ar gyfer Ras yr Wyddfa

20/07/2024
Ras yr wyddfa

Roedd torfeydd wedi heidio i Lanberis ddydd Sadwrn ar gyfer Ras Ryngwladol yr Wyddfa.

Roedd cannoedd o redwyr wedi cystadlu ar droed Yr Wyddfa cyn gwneud eu ffordd i gopa uchaf Cymru a Lloegr.

Mae Ras yr Wyddfa yn cael ei hystyried fel un o fawrion y byd rhedeg mynydd, gyda rhedwyr o bob rhan o Ewrop yn teithio i Gymru i fod yn rhan o'r ras 10 milltir ym Mharc Cenedlaethol Eryri. 

Yn cynrychioli tîm dynion Cymru fydd Gavin Roberts, Tom Wood, Gareth Hughes a Rhys Jones, sy'n gwneud ei ymddangosiad cyntaf.

Bydd Elliw Roberts, Lucy Williamson, Katrina Entwistle a Bethan Logan yn cynrychioli tîm merched Cymru.

Y llynedd, Isacco Costa o’r Eidal a Holly Page o’r Alban ddaeth yn fuddugol.

'Anhygoel'

Dywedodd trefnydd y ras, Stephen Edwards: “Mae'r bwrlwm yn y pentref dros benwythnos Ras yr Wyddfa yn anghredadwy.

“Mae’r ras hon yn golygu cymaint i’r ardal a phobl Llanberis. I feddwl sut mae wedi datblygu dros y blynyddoedd ers y ras gyntaf yn 1976 – mae’n anhygoel.”

Ychwanegodd: “Mae'r ras yn meddwl lot fawr imi, fel hogyn o Lanberis, a fi sy'n trefnu un o'r rasys mwy eiconig yng Nghymru a'r byd.”

Joe Steward o Loegr enilloddd ras y dynion mewn amser o 1:05:41 gyda Lorenzo Cagnati o’r Eidal yn ail a Grant Cunliffe o Loegr yn drydydd.

Naomi Lang o’r Alban oedd yn fuddugol yn ras y menywod mewn amser o 1:15:48 gydag Eve Pannone o Loegr yn ail a Beatrice Bianchi o’r Eidal yn drydydd.

Fe wnaeth dynion a menywod Eryri ennill y ras ar gyfer timau.

Llun: Sports Pictures Wales

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.