Newyddion S4C

Y Gweinidog Iechyd yn cefnogi cynlluniau dadleuol Ysbyty Felindre

ITV Cymru 05/07/2021
Protest Felindre
Protest Felindre

Mae Gweinidog Iechyd Cymru wedi datgan ei chefnogaeth i adeiladu ysbyty ganser yng Nghaerdydd.

Mae’r cynlluniau i godi’r ganolfan mewn caeau i’r gogledd o’r Eglwys Newydd wedi wynebu gwrthwynebiad cryf.

Bu grwp ‘Save the Northern Meadows’ yn protestio yn ystod yr ymgynghoriad diweddaraf, gan ddweud eu bod wedi "colli ffydd" yn yr awdurdodau.

Mae’r gwrthwynebwyr yn dweud bod ganddynt bryder am yr amgylchedd yn y lleoliad hwn, ac fe ddylid ail-gynllunio mewn man arall. Maen nhw wedi lansio achos cyfreithiol yn erbyn y cynlluniau.

Mae pryderon hefyd am adeiladu’r ganolfan ar un safle, wrth i fwy na 160 o glinigwyr meddygol ysgrifennu llythyr at y llywodraeth yn dweud y byddai’n well cael uned ganser mewn ysbytai presennol.

Ond fe ddywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, wrth ITV Cymru ei bod hi’n cefnogi’r cynlluniau.

“Wrth gwrs, mae’n rhaid bod yn ofalus o’r amgylchedd, ond mae’n rhaid deall bod lot o gefnogaeth i’r cynlluniau hyn hefyd, yn enwedig o’r rheiny sydd wedi cael triniaeth yn Felindre yn y gorffennol.

“Mae’n bwysig ein bod yn canolbwyntio ar anghenion y rheiny sy’n dioddef o ganser ar hyn o bryd”, meddai yng nghynhadledd y wasg Llywodraeth Cymru ddydd Llun.

Image
Ysbyty Felindre
Mae'r Gweinidog Iechyd wedi datgan ei chefnogaeth i gynlluniau Ysbyty Felindre. 
Llun: Ymddiriedolaeth GIG Felindre

Cynllun gwerth £550m

Mae’n debygol bydd y prosiect yn costio mwy na £550m, gyda’r gwaith adeiladu yn dechrau yn 2023.

Bydd yr ysbyty yn disodli gwaith ysbyty bresennol Felindre, a gafodd ei hadeiladu yn 1956 i roi triniaeth i gleifion canser yn ne ddwyrain Cymru.

Un sy’n chwyrn yn erbyn y cynlluniau yw Ian Vincent, sy’n byw gerllaw’r safle. Mae’n pryderu am effaith yr adeiladu ar y tir.

Mae’n dweud bod yr ardal wedi dioddef llifogydd yn y gorffennol, ac mae’n poeni am y “draeniad dŵr o adeiladu canolfan mor enfawr.”

Mae hefyd yn gwrthod y farn bod y grŵp yn atal gwasanaethau canser gan ddweud eu bod yn “sefyll dros gleifion canser a chenedlaethau i ddod.”

“Rydym eisiau i’r penderfyniad gael ei ailystyried. Dim dyma’r lle iawn i adeiladu,” meddai.

Angen 'helpu pobl i fyw'n hirach'

Mewn ymateb, dywedodd Ymddiriedoaleth GIG Felindre bod nifer y bobl â chanser yn cynyddu, a bod angen “helpu pobl i fyw’n hirach gyda chanser”.

“Mae’r ganolfan Ganser Felindre yn fwy na 65 oed a does ganddi ddim o’r cyfleusterau na’r lle i gyflawni’r heriau yn y dyfodol.

“Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i ddatblygu’r safle fel ased i’r gymuned leol, gan gynnal ymgynghoriad agored a gonest gyda’n holl bartneriaid. Bydd pob llais yn cael ei glywed.” 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.