Newyddion S4C

'Camgymeriad' oedd dewis Cory Hill fel capten, medd Warren Gatland

19/07/2024

'Camgymeriad' oedd dewis Cory Hill fel capten, medd Warren Gatland

Mae Warren Gatland wedi dweud ei fod yn ‘gamgymeriad’ dewis Cory Hill yn gapten ar Gymru ar gyfer eu gêm yn erbyn Queensland Reds ddydd Gwener.

Fe wnaeth y chwaraewr ail-reng dynnu allan o’r tîm funudau cyn chwiban gyntaf y gêm, a chwaraewyd yn Brisbane fore Gwener.

Mewn datganiad dywedodd Undeb Rygbi Cymru (URC) na fyddai Cory Hill yn chwarae "am resymau personol".

Roedd dewis y chwaraewr yn gapten wedi bod yn benderfyniad dadleuol wedi iddo gael ei enwi ymhlith grŵp o ddynion a ddifrododd dŷ dynes ym mis Mai 2021.

Ni chafodd ei gyhuddo o unrhyw drosedd yn ymwneud â'r digwyddiad.

Wrth siarad gyda’r wasg ar ôl y gêm, ble enillodd Cymru o 36 bwynt i 35, dywedodd Warren Gatland ei fod wedi penodi Hll yn gapten ar gyfer y gêm ar sail "rhesymau rygbi" yn unig.

Dywedodd hefyd nad oedd Prif Weithredwr URC, Abi Tierney, na’r uwch cyfarwyddwr rygbi, Nigel Walker, yn rhan o’r penderfyniad.

Meddai Gatland: “Daeth Cory ataf fi a dweud oherwydd rhesymau personol, ei fod yn tynnu mas o’r gêm. Roedd yn rhaid i mi barchu ei benderfyniad i wneud hynny. 

"Dwi’n rhoi fy nwylo lan a dweud mae’n debyg na ddylwn i wedi ei roi yn y sefyllfa honno. Nes i'w ddewis ar sail beth oedd e wedi’i wneud mas yna. Penderfyniad rygbi y gwnes i.

“Dyw e ddim yn helpu pan mae negatifrwydd yn cael ei dwlu tuag atat ti, mae’n wneud pethau’n anodd. Buaswn i wedi gallu cyfyngu ar hynny drwy ei beidio rhoi yn  y safle yna. Dylwn i roi fy nwylo lan yn hynny o beth. 

"Falle doeddwn i ddim wedi gwerthfawrogi y byddai ymateb negatif i’r penderfyniad hwnnw. Efallai fy mod heb werthfawrogi hynny digon."

'Difaru'

Roedd Hill wedi ymddiheuro mewn cynhadledd i’r wasg yr wythnos hon gan ddweud ei fod wedi gwneud camgymeriad a’i fod yn flin am yr hyn ddigwyddodd.

"Ydw i'n difaru? Ydw, wrth gwrs fy mod yn gwneud," meddai. “Fe wnes i gamgymeriad ac mae’n ddrwg gen i.”

Wrth siarad ddydd Gwener, fe wnaeth Gatland fynnu unwaith eto y dylai Hill gael maddeuant.

“Mae yna lawer o chwaraewyr sydd wedi bod mewn sefyllfaoedd tebyg sydd, am ba bynnag reswm, yn dychwelyd i chwarae," meddai Gatland.

“Roeddwn i’n meddwl ei fod yn wych ddydd Mercher [yn y gynhadledd i’r wasg]. Roeddwn i’n meddwl ei fod yn ddiffuant o ran ei ymddiheuriad am rywbeth a ddigwyddodd dair blynedd yn ôl.

"Y ffeithiau yw na chafodd ei arestio na'i gyhuddo. Mae wedi rhoi ei law i fyny a dweud ei fod wedi gwneud camgymeriad.

“Pa mor hir y mae'n rhaid i chi aros cyn i bobl roi'r gorau i daflu pethau atoch chi?

"Mae yna lawer o enghreifftiau o chwaraewyr sydd wedi camymddwyn ac wedi mynd yn ôl i chwarae."

Llun: Cory Hill a Warren Gatland mewn cynhadledd i'r wasg yr wythnos hwn (Asiantaeth Huw Evans)

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.