Cynllun ffermio’r Llywodraeth wedi achosi ‘lefelau digynsail o bryder’
22/07/2024
Mae cynllun dadleuol Llywodraeth Cymru am ddyfodol ffermio wedi ei feirniadu yn hallt gan ddau o bwyllgorau’r Senedd.
Ar ddiwrnod cyntaf Sioe Frenhinol Cymru, mae’r Cynllun wedi dod dan y lach mewn adroddiad newydd sy’n dweud ei fod yn esiampl o "gam gyfathrebu" a’i fod wedi achosi "lefelau digynsail o bryder" ynghylch p’un a allai gyflawni ei nôd.
Ers pasio Deddf Amaethyddiaeth (Cymru) yr haf diwethaf a’r protestiadau mawr gan ffermwyr, mae Llywodraeth Cymru wedi gohirio cyflwyno’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy. Y bwriad, medden nhw, oedd gweithio gyda’r diwydiant a’r undebau i ddatblygu’r cynigion yn y cynllun.
Mewn ymateb i'r adroddiad, dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn "cytuno bod llawer mwy i'w wneud" ac mai'r "peth pwysicaf yw cydweithio".
Ond mae Paul Davies AS, Cadeirydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig yn dweud nad yw Llywodraeth Cymru “wedi gwrando ar bryderon” ffermwyr.
“Yn y Sioe Frenhinol eleni, bydd bron i flwyddyn wedi mynd heibio ers pasio Deddf Amaethyddiaeth Llywodraeth Cymru ac mae yna oedi o hyd o ran gweithredu’r Ddeddf,” meddai.
“I'r rhai sy'n ymwneud â ffermio, ac i'r rhai sy'n gweithio i warchod ein hamgylchedd, mae'r ansicrwydd hwn yn peri pryder.”
Mae’n dweud mai un o’r prif bryderon yw’r ffordd mae ffermwyr wedi cael gwybod am y newidiadau mawr.
“Mae'n hanfodol bod ffermwyr yn cymryd rhan ar hyd y broses ac yn cael y wybodaeth ddiweddaraf.
“Rydym ni'n galw ar Lywodraeth Cymru i ddangos sut maen nhw'n addasu eu cynlluniau i ddiwallu anghenion ein diwydiant amaeth a'n hamgylchedd,” meddai.
Pryderon eraill sydd yn cael eu codi yn yr adroddiad yw’r targedau ar gyfer plannu coed a’r ffordd maent yn gweithio taliadau i ffermwyr.
Yn y ddogfen nodir yn ogystal y pryder nad yw’r cynllun presennol yn cefnogi yn ddigonol y rhai sydd yn dechrau yn y byd ffermio a ffermwyr sy'n denantiaid.
Plannu coed
Yn ogystal â phryderon amaethwyr mae amgylcheddwyr hefyd wedi dweud eu bod nhw’n rhwystredig ynglŷn â’r ffaith fod y broses o gyflwyno’r cynllun wedi cael ei oedi.
Daw hyn yn amlwg yn adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith sydd hefyd wedi cynnal ymchwiliad yn edrych ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy.
Yr agwedd fwyaf dadleuol ar y cynllun yw bod rhaid i 10% o dir ffermwyr fod wedi’i orchuddio â choed.
Yn ôl y Pwyllgor roedd ffermwyr wedi mynegi teimladau cryf y byddai nifer o fusnesau yn methu parhau os y bydden nhw yn bwrw ymlaen gyda’r targedau plannu coed.
Dywedodd Llyr Gruffydd AS, Cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith fod gan Lywodraeth Cymru “lawer o waith i'w wneud” cyn fod y cynllun yn barod.
“O gofio bod Llywodraeth Cymru bellach wedi gweithio ar y cynlluniau hyn ers bron i ddegawd, mae'n hanfodol iddyn nhw ffeindio datrysiadau i sicrhau fod cynllun yn barod ar gyfer 2026.
“Mae gan y Cynllun Ffermio Cynaliadwy y potensial i roi amaethyddiaeth ar sail wirioneddol gynaliadwy, gyda ffermwyr yn arwain yn y frwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd a dirywiad natur. Byddwn yn annog Llywodraeth Cymru i fabwysiadu ein hargymhellion cyn symud ymlaen.”
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Hoffem ddiolch i’r pwyllgor am yr adroddiad amserol yma ac mae’n braf gweld cydnabyddiaeth i bwysigrwydd y Cynllun Ffermio Cynaliadwy a’r cynnydd rydyn ni’n ei wneud tuag at ei gyflwyno yn 2026.
“Rydyn ni i gyd yn cytuno bod llawer mwy i'w wneud ac mai'r peth pwysicaf yw cydweithio. Byddwn yn ymateb i argymhellion y pwyllgor yn fuan."