Newyddion S4C

Difrodi cerbydau yn ystod anhrefn treisgar mewn ardal o Leeds

19/07/2024
Anhrefn Leeds

Cafodd ceir eu rhoi ar dân ac fe gafodd car heddlu ei droi ar ei ben yn ystod anhrefn mewn ardal o Leeds nos Iau.

Fe wnaeth Heddlu Sir Efrog annog pobl i aros yn eu tai am gyfnod wedi i bobl daflu cerrig, rhoi ceir ar dân ac ymosod ar geir y llu.

Cafodd yr heddlu eu galw i Stryd Luxor yn ardal Harehills am 17:00 ddydd Iau a darganfod "aflonyddwch" oedd yn gysylltiedig â gweithwyr asiantaeth yn mynd a phlant i ofal yr awdurdodau meddai rhai adroddiadau.

Mewn datganiad dywedodd y llu bod mwy o swyddogion wedi cael eu hanfon i'r lleoliad i gynorthwyo gyda'r digwyddiad.

Roedd lluniau a gafodd eu rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol yn dangos bws ar dân, car heddlu ar ei ben, seirenau car yn canu a phobl yn gweiddi yn y stryd.

Roedd nifer sylweddol o heddweision ar y strydoedd yn yr ardal ar un cyfnod, gyda hofrenyddion yn cael eu defnyddio i gadw llygad ar y sefyllfa.

'Treisgar'

Disgrifiodd Riesa, gweithiwr mewn fferyllfa, y digwyddiadau fel rhai "treisgar."

"Roedden nhw'n ymosod ar geir yr heddlu, taflu pethau atynt, unrhyw beth roedden nhw'n gallu pigo fyny oddi ar y llawr," medai wrth asiantaeth newyddion PA.

"Yn sicr roedd diodydd yn cael eu taflu at yr heddlu, oherwydd roeddynt yn ceisio peidio mynd yn rhy agos i'r dorf achos roedd e'n eithaf treisgar."

Dywedodd cwmni First Bus bod dau o'u bysiau wedi cael eu difrodi yn ystod yr anhrefn, ond nid oedd unrhyw un wedi eu hanafu.

Dywedodd Ysgrifennydd Cartref y DU, Yvette Cooper nad oes gan ddigwyddiadau "o'r natur yma unrhyw le yn ein cymdeithas."

'Ymchwilio'

Dywedodd Heddlu Sir Efrog y byddan nhw’n cynnal ymchwiliad llawn i “bob trosedd… gan gynnwys difrod i gerbydau a gafodd eu rhoi ar dân”.

“Bydd (pob trosedd) yn cael eu hymchwilio’n llawn gan dditectifs,” meddai’r llu.

“Rydym am ei gwneud yn glir iawn y bydd y gyfraith yn cael ei defnyddio yn erbyn y rhai sy’n gyfrifol.”

Dywedodd yr heddlu nad oedd neb wedi’i hanafu a dywedodd Maer Gorllewin Sir Efrog, Tracy Brabin, ei bod wedi ei “sicrhau” na fu unrhyw anafiadau difrifol yn ystod y digwyddiad.

Llun: Don Mort

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.