Eog! Dirwy i bysgotwr ar ôl iddo stwffio pysgodyn fyny ei lawes
Bydd yn rhaid i bysgotwr o Gwmafan dalu dirwy o fwy na £2,500 ar ôl cael ei ddal yn anghyfreithlon yn cymryd eog a'i stwffio i fyny ei lawes.
Ar 30 Gorffennaf 2023, bu i aelodau Gymdeithas Bysgota Llandysul weld Stephen Samuel, o Gwmafan, Port Talbot, yn lladd yr eog ac yn mynd ag ef o’u pysgodfa ar Afon Teifi rhwng Ceredigion a Sir Gaerfyrddin.
Gwelwyd Samuel gan aelod o’r Gymdeithas Bysgota yn ymddwyn mewn modd amheus wrth gerdded i ffwrdd o’r afon. Er y glaw trwm, dim ond crys-T oedd Samuel yn ei wisgo, ond roedd yn cario siaced law dros ei ysgwydd.
Wrth wynebu Samuel, gwelodd yr aelod o’r Gymdeithas Bysgota ben eog yn ymwthio allan o fraich y siaced.
Adroddodd aelodau’r Gymdeithas Bysgota y digwyddiad i Heddlu Dyfed Powys, a gysylltodd â swyddog gorfodi Cyfoeth Naturiol Cymru. Aeth y swyddogion i’r afon a dal Samuel gyda chymorth aelod o’r Gymdeithas Bysgota a beili dŵr (water bailiff) gwirfoddol y Gymdeithas.
Cyrhaeddodd swyddog CNC y lleoliad ychydig yn ddiweddarach a dywedodd wrth Samuel y byddai’n cael ei riportio.
‘Cymorth’
Dywedodd Mark Thomas, Swyddog Gorfodi CNC: “Rydym yn gobeithio y bydd cosbau fel hyn yn atal y bobl hynny sy’n peryglu cynaliadwyedd ein hafonydd yn y dyfodol ac yn diogelu mwynhad y mwyafrif helaeth o bysgotwyr sy’n pysgota’n gyfreithlon ac yn gyfrifol.
“Ni fydd swyddogion CNC yn oedi cyn cymryd camau gorfodi yn erbyn y lleiafrif bach o bysgotwyr sy’n cyflawni’r mathau hyn o droseddau.
“Hoffwn ddiolch i Heddlu Dyfed Powys am eu cymorth parhaus gyda’r achosion hyn a hefyd i aelodau a phwyllgor Cymdeithas Bysgota Llandysul am eu cymorth parhaus wrth warchod afon Teifi.”
Cafodd Stephen Samuel, ei riportio am bedair trosedd – tair oedd yn mynd yn groes i Is-ddeddfau Gwialen a Lein Cymru (Eog a Siwin Brithyllod Môr) 2017.
Wrth gael ei rybuddio, cyfaddefodd Samuel ei fod yn gwbl ymwybodol nad oedd yn cael cadw unrhyw eog a ddelir yn afonydd Cymru a’i fod yn ymwybodol hefyd o’r gwaharddiad ar ddefnyddio bachau trebl ar abwyd troelli a’r defnydd o fachau pigog wrth bysgota am bysgod mudol fel eogiaid a siwin.
Cafodd orchymyn i dalu cyfanswm o £2580 gan Lys Ynadon Llanelli.