Newyddion S4C

Gwasanaethau trên y gogledd 'yn cael effaith negyddol ar fusnesau'

18/07/2024

Gwasanaethau trên y gogledd 'yn cael effaith negyddol ar fusnesau'

Mynd o ddrwg i waeth a gwasanaeth eilradd.

Dyna rai o'r sylwadau gan aelodau'r Cyngor Busnes am wasanaethau trên presennol y gogledd.

Maen nhw'n dweud bod hynny'n cael effaith negyddol ar eu busnesau.

"Mae'n hynod bwysig cael rhwydwaith effeithiol... "..o ran y gweinyddol a'r ochr busnes hefyd efo cwsmeriaid.

"Mae'n anodd sbio 'mlaen a threfnu efo system anhrefnus ac annibynadwy.

"'Swn i'n hoffi gweld mwy yn defnyddio trenau a bysus.

"Defnyddio ffyrdd mwy adnewyddol o ddod yma."

Mae'r Cyngor Busnes am weld cwmni Virgin yn dychwelyd dan lwybr rheilffordd gyda mynediad agored sy'n golygu na fyddai'r cwmni'n derbyn cymorthdaliadau wedi'u hariannu gan y trethdalwr.

Roedd trenau Virgin i'w gweld ar hyd lein y gogledd am 22 mlynedd cyn i gytundeb gael ei gymeradwyo gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i gwmni Avanti.

"'Dy o'm yn briliant ac mae'n hit and miss os byddan nhw'n troi fyny.

"Mae 'na lot o delays a strikes a ballu."

"Pan oedd Virgin yn rhedeg o, doedd 'na ddim problem.

"O'n i'n medru mynd ar y trenau a gwybod bod nhw'n rhedeg.

"Mae safon gwasanaeth Avanti yn warthus."

"Pan dw i wedi iwso nhw, maen nhw'n iawn."

Dangosodd ymchwiliad diweddar bod canran gwasanaethau Avanti sy'n cael eu canslo yn y gogledd wedi codi o 8% i dros 21% rhwng Ebrill a Mehefin sydd wedi sbarduno'r cyngor i ofyn am gymorth gan berchennog Virgin i ddod a'i drenau yn ôl.

Yn ôl cwmni Virgin mae'r diwydiant yn barod am newid ac mai nhw ydy'r hyn sydd ei angen i newid pethau.

Yn ôl cwmni Avanti West Coast maen nhw'n gweithio'n galed i fynd i'r afael â materion sylfaenol o ran perfformiad.

Yn San Steffan heddiw, llywodraeth newydd yn nodi eu cynlluniau i ddod a'r gwasanaethau rheilffordd i deithwyr yn ôl i berchnogaeth gyhoeddus gyda'r Ysgrifennydd Trafnidiaeth newydd, Louise Hague wedi cyfarfod â rheolwyr Avanti a Network Rail i drafod canslo ac oedi.

Ddeudodd hi bod rheilffyrdd Prydain yn fethiant i deithwyr.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn edrych 'mlaen at gydweithio gyda San Steffan i wella'r sefyllfa.

Am y tro felly, gobaith gan nifer ydy y bydd 'na well gwasanaethau ar reilffyrdd y gogledd yn y dyfodol ac y bydd 'na olau ar bendraw'r twnnel.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.