Y pwysau'n cynyddu ar Joe Biden i adael y ras arlywyddol
Mae'r pwysau'n cynyddu ar Joe Biden i adael y ras arlywyddol wrth iddo fod yn absennol o'r ymgyrch ar ôl iddo ddal Covid.
Mae dau o aelodau blaenllaw o'r Blaid Ddemocrataidd yn Senedd yr Unol Daleithiau wedi mynegi pryderon am ymgyrch arlywyddol Mr Biden.
Cafodd y pryderon eu mynegi gan arweinydd y Democratiaid yn Senedd yr Unol Daleithiau, Chuck Schumer, ac Arweinydd Lleiafrif y Tŷ, Hakeem Jeffries, sydd wedi cyfarfod â Mr Biden yn unigol i fynegi pryderon ynghylch ei gais i'r Tŷ Gwyn.
Mae Nancy Pelosi, cyn llefarydd Tŷ’r Cynrychiolwr, hefyd wedi dweud wrtho’n breifat na all guro Donald Trump yn etholiad mis Tachwedd, yn ôl CNN.
Daw'r pwysau cynyddol ar Mr Biden, 81 oed, i gamu o'r neilltu wrth iddo dynnu allan o ddigwyddiadau ymgyrchol gan ei fod yn dioddef o Covid.
Dywedodd y Tŷ Gwyn fod yr ymgeisydd Democrataidd yn profi symptomau ysgafn, a'i fod wedi dychwelyd i'w gartref yn Delaware i hunan-ynysu.
Inline Tweet: https://twitter.com/JoeBiden/status/1813716534499393678
Mae Mr Biden wedi mynnu na fydd yn gadael y ras arlywyddol, er gwaethaf ofnau y gallai ei oedran ei weld yn colli i Donald Trump ym mis Tachwedd.
Roedd pryderon eisoes am ei ymgais i gael ei ail-ethol yn arlywydd yr Unol Daleithiau.
Yr wythnos diwethaf, fe wnaeth Mr Biden gamsyniadau yng nghyngres NATO.
Yng nghwmni arweinwyr gwledydd NATO, fe wnaeth Mr Biden gyflwyno arlywydd Wcráin, Volodymyr Zelensky, fel "yr Arlywydd Putin", sef arlywydd Rwsia.
Mae Wcráin wedi bod mewn rhyfel gyda Rwsia ers mis Chwefror 2022. Fe wnaeth gywiro ei hun yn gyflym ar ôl hynny.
Mewn cynhadledd i’r wasg yn ddiweddarach, dywedodd Mr Biden ei fod yn gwrthod pryderon am ei ymgyrch.