Cynllun i symud Llyfrgell Llandudno i Venue Cymru
Mae cynllun i symud llyfrgell yng Nghonwy o ganol dref i ganolfan celfyddydau gerllaw.
Mae Cyngor Sir Conwy wedi cyflwyno cynllun i symud Llyfrgell Llandudno a gwasanaeth gwybodaeth twristiaeth y dref ar Stryd Mostyn i Venue Cymru.
Mae'n rhan o brosiect Ffyniant Bro £10 miliwn er mwyn "darparu rhagor o hygyrchedd a gwasanaeth gwell i ddefnyddwyr y llyfrgell".
Bwriad y Gronfa Ffyniant Bro gan Lywodraeth y DU yw lleihau anghydraddoldeb yn seiliedig ar ble mae pobl yn byw.
Fel rhan o'r prosiect, bydd Cyngor Conwy yn cynnal ymgynghoriad ar symud cyfleusterau'r llyfrgell i Venue Cymru.
Mae'r tîm prosiect eisoes wedi bod yn gweithio ar gynlluniau manwl i wella’r cyfleusterau yn y ganolfan gelfyddydau.
Bydd y cynlluniau hyn yn cael eu cyflwyno i Lywodraeth y DU fel rhan o achos busnes sy’n ofynnol er mwyn cael y cyllid.
'Celfyddydau'n bwysig'
Dywedodd Cyngor Sir Conwy y byddai symud y llyfrgell yn golygu y byddai ei horiau agor yn cael eu hymestyn.
Byddai hefyd yn golygu y byddai caffi ar gael ar y safle ac amrywiaeth o ddigwyddiadau diwylliannol a fyddai’n cael eu rhannu gyda’r gwasanaeth llyfrgell.
Byddai lleoliad y llyfrgell ar lawr gwaelod yr adeilad yn "darparu mynediad gwell i’r rhai ag anableddau, rhai â phroblemau symudedd neu rai sy’n defnyddio pramiau", meddai'r cyngor.
Dywedodd y Cynghorydd Aaron Wynne, aelod o'r Cabinet Diwylliant: “Mae’r celfyddydau a diwylliant yn bwysig iawn wrth ddarparu effaith economaidd gadarnhaol ac wrth gefnogi lles ein cymunedau. Mae’n hanfodol ein bod yn edrych ar bob opsiwn er mwyn helpu i ddiogelu a gwella dyfodol ein gwasanaethau.”
Mae disgwyl i ymgynghoriad gael ei gynnal ar y cynnig dros yr haf.
Llun: Wikimedia