Newyddion S4C

‘Mor prowd’: Sylw yn troi at Wlad Pwyl wedi buddugoliaeth ddramatig i Gaernarfon yn Belfast

18/07/2024
2024-07-17 Crusaders FC vs Caernarfon Town 44.JPG

Mae rheolwr CPD Caernarfon, Richard Davies, wedi dweud ei fod "mor prowd" o’i chwaraewyr wedi noson hanesyddol i’r clwb yn Belfast nos Fercher.

Ar ymddangosiad cyntaf y clwb mewn cystadleuaeth pêl-droed Ewropeaidd, fe lwyddodd y Caneris i drechu Crusaders o Uwch Gynghrair Gogledd Iwerddon dros ddau gymal.

Ond roedd hi’n noson hynod ddramatig yn Stadiwm Seaview.

Gyda Chaernarfon yn ennill 2-0 yn y cymal cyntaf, fe lwyddodd Crusaders i ddod a’u hunain yn gyfartal dros y ddau gymal, gan arwain yr ail gymal 3-1 wedi 90 munud.

Gyda’r cyfanswm goliau yn 3-3, aeth y gêm i amser ychwanegol, ac yna i giciau o’r smotyn.

Gyda thua 400 o gefnogwyr Caernarfon yn yr eisteddle y tu ôl i ble’r oedd y ciciau yn cael eu cymryd, roedd y cyffro a’r tensiwn yn amlwg, wrth i’r ddau dîm sgorio eu saith cic gyntaf.

Cafodd cic gan Lewis Barr ei arbed gan golgeidwad Caernarfon, y Gwyddel ifanc Stephen McMullan, cyn i Gruff John fethu gyda’i ymgais dros y Cofis.

Ond gyda Jordan Owens methu â sgorio i Crusaders, fe lwyddodd Marc Williams i ganfod cefn y rhwyd gyda’r gic fuddugol, gan sicrhau’r fuddugoliaeth a sbarduno dathliadau gwyllt rhwng y chwaraewyr a’r Cofi Army.

Image
Caernarfon Crusaders
Marc Williams a'i gyd chwaraewyr yn dathlu gyda'r Cofi Army (Llun: Cymdeithas Bêl-droed Cymru)

'Gwaith caled ohoni'

Gyda hynny, fe wnaeth y Cofis sicrhau eu lle yn ail rownd ragbrofol Cyngres Europa UEFA, ble fydden nhw’n herio’r mawrion o Wlad Pwyl, Legia Warsaw.

Dywedodd Richard Davies ar ôl y gêm: “Dw i mor prowd o’r hogia,

"Naethon ni waith caled ohoni. Oeddan ni 3-0 i fyny half time (ar gyfanswm goliau), ond we did it the hard way. Ond sa chdi’n gwbod bod y result mynd i fod fel ‘na, sa chdi’n gymud o.

“Dwi’n gorfod rhoi crdit i’r hogia' am sefyll mewn yna, maen nhw di rhoi bob dim. Dw i mor prowd ohonyn nhw a pawb yn y clwb. Ond ma players fi’n haeddu gymaint o glod. Oeddan nhw’n unbelievable ac yn credit i’r clwb yma.”

Bydd y fuddugoliaeth yn dod â gwobr ariannol ychwanegol, gyda’r clwb yn derbyn €350,000 ychwanegol am gyrraedd ail rownd ragbrofol y gystadleuaeth.

Dim cefnogwyr

Ond mae’n edrych fel na fydd y Cofi Army yn cael mynychu’r gêm yn Stadiwm Miejski ar nos Fercher 24 Ebrill, gan fod Legia Warsaw wedi derbyn gorchymyn gan UEFA iddyn nhw chwarae eu gêm Ewropeaidd nesaf y tu ôl i ddrysau caeedig, oherwydd baneri anweddus yr oedd cefnogwyr wedi dangos mewn gêm yng Nghyngres Europa y tymor diwethaf.

Mae eu cefnogwyr hefyd wedi derbyn gwaharddiad ar brynu tocynnau i gemau oddi cartref mewn cystadlaethau pêl-droed UEFA, wedi eu hymddygiad mewn gêm oddi cartref yn erbyn Aston Villa y tymor diwethaf.

Mae’n golygu na fydd cefnogwyr Legia Warsaw yn debyg o fod yn bresennol ar gyfer yr ail gymal ar nos Fercher 31 Gorffennaf.

Mae llwyddiant Caernarfon yn dod ar ôl i’r Seintiau Newydd sicrhau eu lle yn ail rownd ragbrofol Cynghrair y Pencampwyr ar ôl trechu FK Decic o 4-1.

Bydden nhw yn herio’r cewri o Hwngari, Ferencvaros, wythnos nesaf yn y rownd nesaf.

Bydd Cei Connah yn herio NK Bravo o Slofenia ym Mangor nos Iau, tra bod Bala yn teithio i Estonia i herio Paide Linnameeskond, wrth i’r ddau dîm ceisio ymuno â Chaernarfon yn ail rownd Chyngres Europa.

Bydd y gêm rhwng Cei Connah a NK Bravo yn cael ei ddangos ar-lein gan Sgorio, ar Facebook ac YouTube, am 18.15 nos Iau.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.