Cyngor Gwynedd yn cymeradwyo pwerau newydd i reoli ail gartrefi a llety gwyliau
Cyngor Gwynedd yn cymeradwyo pwerau newydd i reoli ail gartrefi a llety gwyliau
Mae Cabinet Cyngor Gwynedd wedi derbyn argymhelliad i weithredu cyfarwyddyd i reoli’r defnydd o dai fel ail gartrefi a llety gwyliau.
Mae’n golygu y bydd angen i berchnogion tai yng Ngwynedd gael caniatâd cynllunio cyn newid defnydd prif gartref i fod yn ail gartref neu lety gwyliau tymor byr.
Bydd y newid yn dod i rym ar 1 Medi eleni. Bydd yn cael ei weithredu yn Ardal Awdurdod Cynllunio Lleol Gwynedd yn unig, ac nid yn ardal Parc Cenedlaethol Eryri.
Bu Cyngor Gwynedd yn trafod ddydd Mawrth a ddylid gweithredu yr hyn sy'n cael ei alw'n Gyfarwyddyd Erthygl 4 i reoli’r defnydd o dai fel ail gartrefi a llety gwyliau.
Yn ôl y cyngor, ni fyddai’r newid yn effeithio ar dai sydd eisoes wedi sefydlu fel ail gartref neu lety gwyliau tymor byr cyn i’r Cyfarwyddyd Erthygl 4 ddod i rym.
Yn ôl y cyngor, mae’n gam "arloesol."
‘Balch’
Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Meurig, Aelod Cabinet Amgylchedd Cyngor Gwynedd: “Mae Cyngor Gwynedd am weld pobl leol yn gallu cael mynediad at dai addas a fforddiadwy yn lleol – mae hynny yn allweddol er mwyn sicrhau dyfodol ein cymunedau ni.
“Yn anffodus, mae ymchwil yn dangos fod cyfran sylweddol o bobl Gwynedd yn cael eu prisio allan o’r farchnad dai ac mae hynny i’w weld yn fwy amlwg mewn cymunedau lle mae niferoedd uwch o gartrefi gwyliau."
Dywedodd Dr Jeff Smith, Cadeirydd Grŵp Cymunedau Cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith: "Rydym yn falch o weld Cyngor Gwynedd yn mynd ati gyda’r broses o gyflwyno Gorchymyn Erthygl 4 ac hynny ar draws y sir gyfan.
“Ond mae argyfwng tai Cymru’n bodoli y tu hwnt i ffiniau Gwynedd. Galwn nawr ar awdurdodau lleol eraill i ddilyn yr esiampl yma ar draws eu siroedd nhw.
“Mae’n amlwg bod ystyriaethau ariannol, capasiti swyddogion ac ansicrwydd am y broses yn eu hatal rhag gwneud felly mae dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i baratoi pecyn cymorth sy’n cynnwys cyllid ar gyfer staff ychwanegol er mwyn ei weinyddu a chanllawiau clir.
“Beth yw diben y grymoedd newydd yma os na all awdurdodau lleol wneud defnydd ohonyn nhw oherwydd diffyg adnoddau neu arweiniad?”