Newyddion S4C

Plaid Cymru yn galw am etholiad wedi ymddiswyddiad Gething

16/07/2024
Rhun ap Iorwerth (PA)

Mae arweinydd Plaid Cymru wedi galw am etholiad wedi i Vaughan Gething  gyhoeddi y bydd yn ymddiswyddo fel Prif Weinidog Cymru.

Fe benderfynodd Vaughan Gething roi'r gorau i'w swydd ar ol i bedwar aelod o'i gabinet ddweud nad oedd ganddyn nhw ffydd ynddo fel arweinydd mwyach.

Yn ôl Rhun ap Iorwerth mae'r cyhoedd wedi colli ffydd yn Mr Gething ond hefyd "yng ngallu Llafur i lywodraethu Cymru".

"Mae'n bosibl mai dyma fydd y trydydd Prif Weinidog Llafur mewn saith mis. Am anhrefn.

"Mae Llafur wedi rhoi buddiannau eu plaid o flaen buddiannau ein gwlad am lawer rhy hir.

"Rhaid rhoi cyfle i bobl Cymru ethol llywodraeth newydd a rhaid galw etholiad."

'Sgandal'

Mae arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru Andrew RT Davies wedi dweud bod ffigyrau blaenllaw Llafur, "reit i fyny i'r top at Keir Starmer" yn "euog o'r cwymp mewn llywodraethiant yng Nghymru". 

"Bydd Cymru yn cofio," meddai. 

Roedd hwn y "penderfyniad cywir" meddai arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Jane Dodds ond yn un ddylai fod wedi digwydd "ers tro".

Mae'n dweud bod angen sicrhau na all "sgandalau" fel hyn fyth  ddigwydd eto ac y bydd ei phlaid yn dwyn i gyfrif pwy bynnag fydd arweinydd Llafur newydd Cymru. 

'Dymuno'r gorau'

Mae'r Prif Weinidog ac arweinydd y Blaid Lafur, Syr Keir Starmer wedi diolch i Vaughan Gething ar ôl y cyhoeddiad ei fod yn rhoi'r gorau iddi.

“Dylai Vaughan fod yn falch iawn o fod yn arweinydd du cyntaf unrhyw wlad yn Ewrop,” meddai.

“Bydd yr hyn a gyflawnodd o fudd i genhedlaeth o bobl ifanc yng Nghymru a thu hwnt.

“Dw i’n gwybod pa mor anodd yw’r penderfyniad  wedi bod iddo – ond dwi hefyd yn gwybod ei fod wedi ei wneud oherwydd ei fod yn teimlo mai dyma’r penderfyniad gorau i Gymru.

“Rwy’n dymuno’r gorau iddo yn ei ymdrechion yn y dyfodol.”

 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.