
Vaughan Gething yn cyhoeddi’r dystiolaeth i gyfiawnhau diswyddo Hannah Blythyn
Mae’r Prif Weinidog Vaughan Gething wedi cyhoeddi’r dystiolaeth oedd yn gyfiawnhad i benderfyniad dadleuol i ddiswyddo aelod o’i gabinet.
Daw wrth i bedwar aelod arall o gabinet Llywodraeth Cymru ymddiswyddo ddydd Mawrth gan gyfeirio at ddiswyddo Hannah Blythyn ym mis Mai wrth wneud hynny.
Roedd Hannah Blythyn wedi ei diswyddo o’r cabinet wedi i Vaughan Gething honni bod delwedd o’i ffôn wedi ei rhyddhau i’r wasg.
Roedd y ddelwedd yn ymwneud â sgwrs am y cyfnod Covid ac yn cynnwys sylwadau honedig gan y Prif Weinidog Vaughan Gething a oedd yn Weinidog Iechyd ar ddechrau'r pandemig.
Roedd Vaughan Gething wedi dweud yn y Senedd ddydd Mercher mai o ffôn Hannah Blythyn yn unig y gallai’r negeseuon fod wedi dod.
Ond dywedodd Nation.Cymru, y safle newyddion a dderbyniodd y negeseuon, wedyn nad Hannah Blythyn oedd eu ffynhonnell.
Wrth gyhoeddi’r dystiolaeth dywedodd Vaughan Gething: “Gweinidogion sy'n gyfrifol am ddiogelwch eu data, ac ni waeth sut y daeth y llun i feddiant y newyddiadurwr, ni ddylai'r ddelwedd fod wedi cael ei chymryd, gan arwain fel y gwnaeth at Weinidogion yn colli ymddiriedaeth yn y ffordd y diogelir preifatrwydd eu trafodaethau.
“Roedd yn arbennig o anodd i gydweithwyr eraill nad oeddent yn gallu bod yn glir nad nhw oedd yn gyfrifol am y datgeliad dan sylw.”

Wrth gyfiawnhau diswyddo Hannah Blythyn, cyfeiriodd Vaughan Gething at y ddelwedd uchod.
Meddai: “Mae'r darn cyntaf o dystiolaeth, fel y disgrifiais yn fanwl i'r Senedd ar 10 Gorffennaf, yn llun o ddarn o sgwrs iMessage o fis Awst 2020 rhwng un ar ddeg o Weinidogion Llafur Cymru.
“Fe anfonwyd y llun hwnnw at Lywodraeth Cymru ym mis Mai eleni yn yr union ffurf rwy'n ei gyhoeddi heddiw gan newyddiadurwr a oedd yn ceisio sylw ar ei gynnwys.
“Rydym wedi cyhoeddi’r llun hwn o'r blaen ar ffurf wedi'i golygu, fodd bynnag, mae bellach ar gael i'r Aelodau heb ei olygu.
“Mae'r ail yn ddelwedd gyfatebol o'r un sgwrs, a gafodd ei lleoli wedyn ar ffôn un arall o'r cyfranogwyr ar ôl i'r ddelwedd gael ei rhannu â ni. Mae cynnwys llawn y sgwrs hon bellach wedi'i gyflwyno i'r Ymchwiliad COVID.
“Mae'r ddelwedd hon yn dangos bod y cyn-Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol yn aelod o'r sgwrs ar y diwrnod hwnnw.
“Wrth edrych ar sgwrs iMessage ar ddyfais unigolyn, bydd modd gweld llythrennau cyntaf yr holl gyfranogwyr eraill, ar wahân i rai’r cyfranogwr ei hunan.
“Drwy groesgyfeirio'r dystiolaeth ynghylch aelodau’r sgwrs yn erbyn y llun o’r sgwrs a gafodd ei rannu â ni gan y newyddiadurwr, daw'n amlwg mai'r unig lythrennau cyntaf sydd ar goll yn y ddelwedd hon yw rhai’r cyn-Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol.
“Mae hefyd yn amlwg bod y ddelwedd wedi'i thynnu yn 2020 a'i chadw cyn i’r datgeliad ddod yn amlwg yn gynharach eleni.
“Y ddau ddarn o dystiolaeth hyn, gyda'i gilydd, yw’r rheswm pam rwyf wedi nodi’n glir wrth y Senedd na all y llun hwn ond fod yn ddelwedd o ffôn y cyn-Weinidog.
“Gwnes i'r penderfyniad anodd i ofyn i'r cyn-Weinidog adael y Llywodraeth ar sail yr wybodaeth hon a'r diffyg esboniad credadwy.”
‘Pryderon’
Mewn datganiad ar lawr y Senedd yr wythnos diwethaf, gwadodd Hannah Blythyn, yr aelod o'r Senedd dros etholaeth Delyn unwaith eto iddi drosglwyddo manylion negeseuon testun i'r wasg.
"Dydw i erioed wedi rhyddhau unrhyw wybodaeth na briffio'r cyfryngau am unrhyw un ohonoch," meddai wrth weddill aelodau'r Senedd brynhawn Mawrth.
"Tra nad wyf yn bwriadu rhannu'r holl fanylion, rwyf yn fodlon dweud wrthych fy mod wedi codi pryderon yn ffurfiol am y broses, wrth i mi golli fy rôl yn y Llywodraeth, sy'n cynnwys y ffaith na chefais weld unrhyw dystiolaeth honedig cyn cael fy niswyddo.
"Ni chefais wybod fy mod o dan ymchwiliad, ac nid ar unrhyw bwynt y cefais fy nghynghori fy mod o bosib wedi torri'r côd gweinidogol."