Newyddion S4C

Biden yn dweud bod ei sylwadau am Trump wedi bod yn 'gamgymeriad'

16/07/2024
Trump a Biden

Mae’r Arlywydd Biden wedi dweud iddo wneud “camgymeriad” ar ôl awgrymu bod hi'n hen bryd i Donald Trump gael ei "dargedu", ddyddiau cyn i ddyn saethu ato mewn rali.

Yn ôl y papur newydd digidol Americanaidd, Politico, roedd yr Arlywydd Biden wedi dweud fod yr amser wedi dod  “i roi Trump y tu mewn i’r ‘bullseye’”. 

Fe ddaeth ei sylwadau tra oedd yn siarad ar alwad ffôn breifat i roddwr ariannol, medd Politico. 

Wrth siarad â’r darlledwr NBC yn ei gyfweliad cyntaf ers yr ymosodiad ar Donald Trump, dywedodd yr Arlywydd Joe Biden fod ei sylwadau wedi bod yn gamgymeriad. 

Ond roedd Arlywydd yr Unol Daleithiau hefyd o’r farn bod hi'n bwysig i rybuddio pobl rhag ethol Trump am yr eildro. 

Ei nod, meddai, oedd annog y Democratiaid i ganolbwyntio mwy ar bolisïau Trump a'r “datganiadau ffug” a wnaeth yn ystod y ddadl arlywyddol ddiwedd y mis diwethaf.

Ddydd Llun fe ymddangos Mr Trump yn gyhoeddus yng Nghonfensiwn Cenedlaethol y Gweriniaethwyr, ddeuddydd wedi iddo oroesi ymosodiad yn ei erbyn. 

Roedd ganddo glytiau dros ei glust ac fe ddiolchodd i'r dorf am eu cefnogaeth. 

Lluniau: Wochit

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.