Cyngor Gwynedd i ystyried pwerau newydd i reoli ail gartrefi a llety gwyliau
Cyngor Gwynedd i ystyried pwerau newydd i reoli ail gartrefi a llety gwyliau
Bydd Cyngor Gwynedd yn cyfarfod ddydd Mawrth i ystyried pwerau newydd i reoli ail gartrefi a llety gwyliau.
Byddai angen i berchnogion tai yng Ngwynedd gael caniatâd cynllunio cyn newid defnydd prif gartref i fod yn ail gartref neu lety gwyliau tymor byr, pe bai adroddiad sy'n argymell hynny yn cael ei gymeradwyo.
Bydd Cyngor Gwynedd yn trafod a ddylid gweithredu yr hyn sy'n cael ei alw'n Gyfarwyddyd Erthygl 4 i reoli’r defnydd o dai fel ail gartrefi a llety gwyliau.
Yn ôl y cyngor, byddai hwn yn gam "arloesol."
Cynhaliodd y Cyngor gyfnod o gasglu barn gyhoeddus ar gyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4 yn ystod Awst a Medi 2023.
Os ydi’r Cabinet yn penderfynu cadarnhau'r newid, byddai’r Cyfarwyddyd Erthygl 4 yn dod i rym o 1 Medi 2024. Byddai yn cael ei weithredu yn Ardal Awdurdod Cynllunio Lleol Gwynedd yn unig, ac nid yn ardal Parc Cenedlaethol Eryri.
Yn ôl y cyngor, ni fyddai’r newid yn effeithio ar dai sydd eisoes wedi sefydlu fel ail gartref neu lety gwyliau tymor byr cyn i’r Cyfarwyddyd Erthygl 4 ddod i rym.
Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Meurig, Aelod Cabinet Amgylchedd Cyngor Gwynedd: “Mae Cyngor Gwynedd am weld pobl leol yn gallu cael mynediad at dai addas a fforddiadwy yn lleol – mae hynny yn allweddol er mwyn sicrhau dyfodol ein cymunedau ni.
“Yn anffodus, mae ymchwil yn dangos fod cyfran sylweddol o bobl Gwynedd yn cael eu prisio allan o’r farchnad dai ac mae hynny i’w weld yn fwy amlwg mewn cymunedau lle mae niferoedd uwch o gartrefi gwyliau."