Newyddion S4C

Marwolaethau bwa croes: John Hunt a'i ferch yn rhoi teyrnged i dri aelod o'u teulu

13/07/2024
Carol Hunt

Mae sylwebydd rasio'r BBC, John Hunt, a'i ferch Amy wedi dweud "na allen nhw gyfleu mewn geiriau" maint eu tristwch yn dilyn marwolaeth tri aelod o'u teulu mewn ymosodiad bwa croes.

Bu farw Carol Hunt, 61 oed, Hannah Hunt, 28 oed, a Louise Hunt, 25 oed, yn eu cartref yn Bushey, Sir Hertford, nos Fawrth.

Cafodd Kyle Clifford, 26 oed, ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaethau ar ôl iddo gael ei ddarganfod gydag anafiadau yn ardal Hilly Fields yn Enfield, gogledd Llundain, ddydd Mercher.

Wrth roi teyrnged i’r tri ddydd Sadwrn, dywedodd Mr Hunt a’i drydedd ferch Amy: “Ni allwn gyfleu mewn geiriau maint ein tristwch.

“Hoffem ddiolch i bobl am eu negeseuon caredig ac am y gefnogaeth a gawsom dros y dyddiau diwethaf. Mae'r rhain wedi rhoi cysur mawr i ni ac rydym yn ddiolchgar iawn amdanyn nhw.

“Fel y gallwch ddychmygu, mae'n gyfnod hynod o anodd i ni, ac rydym angen amser i ddod i delerau â’r hyn sydd wedi digwydd a dechrau’r broses o alaru.

“Tra bod hyn yn digwydd, rydym yn gofyn i'n preifatrwydd ni a phreifatrwydd ein teulu a'n perthnasau ehangach gael eu parchu."

Dywedodd y Ditectif Uwcharolygydd Rob Hall o Uned Troseddau Mawr Sir Bedford, Caergrawnt a Hertford: “Mae ein meddyliau yn parhau gyda theulu’r dioddefwyr ar yr adeg drasig hon.

“Mae’r ymchwiliad yn symud yn gyflym ac o ganlyniad, rydym bellach wedi arestio dyn. Mae ymholiadau’n parhau.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.