Annog y cyhoedd i helpu gwyddonwyr olrhain effaith newid hinsawdd ar löynnod byw
Mae pobl yn cael eu hannog gan elusen i helpu gwyddonwyr i olrhain effaith newid hinsawdd ar löynnod byw.
Yn ôl elusen Butterfly Conservation, mae data’n dangos bod y pryfed yn symud tua'r gogledd.
Mae ymchwilwyr wedi darganfod bod lledaeniad tua’r gogledd ar gyfer llawer o rywogaethau, gan gynnwys glöynnod byw cyffredin wrth i newid hinsawdd greu cynefinoedd cynhesach iddynt oroesi.
Mae’r elusen yn gofyn i bobl gymryd rhan mewn cyfrif mawr blynyddol, er mwyn helpu gwyddonwyr i ddeall mwy am symudiad glöynnod byw tua'r gogledd wrth i'r tymheredd godi.
Maen nhw'n gofyn i bobl dreulio 15 munud mewn unrhyw fan heulog a chofnodi’r nifer a'r math o löynnod byw maen nhw'n eu gweld - neu dim o gwbl, sydd hefyd yn wybodaeth bwysig i'r arbenigwyr.
Yn ôl yr elusen mae diffyg amlwg o loÿnnod byw eleni sy'n debygol o fod oherwydd y gwanwyn gwlyb ac amodau oerach na'r arfer.
Mae’r pryfed yn ei chael hi'n anodd oherwydd eu bod angen rhywfaint o gynhesrwydd a thywydd sych iddyn nhw fod ar yr adain.
Mae’r elusen yn nodi bod 80% o rywogaethau wedi dirywio ers y 1970au, oherwydd colli cynefinoedd, newidiadau i ffermio, plaladdwyr, a newid hinsawdd.
'Cymhleth'
Yn ôl yr elusen mae cynnydd yng Nghymru o rywogaethau’r Fantell Goch a Thorch Arian.
Dywedodd yr elusen: “Mae tirweddau amrywiol hardd Cymru’n gartref i 44 o wahanol rywogaethau o löynnod byw a mwy na 1,850 o wahanol wyfynod.
"Mae’r rhan fwyaf o’r rhain yn dirywio o ran eu nifer a’u gwasgariad, a hynny oherwydd newid hinsawdd a’r ffordd y mae’r tir yn cael ei reoli.
"Mae’r newidiadau hyn yn gymhleth: mae rhai rhywogaethau o wyfynod wedi cael eu gweld yng Nghymru yn ddiweddar am y tro cyntaf.”
Mae’r cyfrif eleni yn rhedeg tan ddydd Sul 4 Awst.
I gael rhagor o wybodaeth ac i gymryd rhan, gall pobl fynd i www.bigbutterflycount.org neu lawrlwytho ap rhad ac am ddim y Big Butterfly Count.