Newyddion S4C

Llofruddiaethau bwa croes: Dyn dan amheuaeth mewn 'cyflwr difrifol'

11/07/2024
Teulu Bushey

Mae'r dyn sydd dan amheuaeth o ladd tri aelod o'r un teulu gyda bwa croes yn Sir Hertford ddydd Mawrth mewn "cyflwr difrifol" medd yr heddlu.

Nid yw swyddogion wedi cael cyfle i holi Kyle Clifford eto meddai Heddlu Sir Hertford.

Mae Mr Clifford, 26 oed, yn yr ysbyty ar ôl cael ei ddarganfod gydag anafiadau yn ystod ymgyrch i chwilio amdano ddydd Mercher.

Lladdwyd Carol Hunt, 61 oed, gwraig sylwebydd rasio BBC 5 Live John Hunt, ochr yn ochr â'i dwy ferch Hannah, 28 oed a Louise, 25 oed, yn ystod digwyddiad ar ffordd Ashlyn Close yn Bushey, Sir Hertford, ychydig wedi 19:00 nos Fawrth.

Ddydd Iau, cynhaliwyd archwiliadau pellach mewn tŷ oedd yn gysylltiedig â brawd Clifford, Bradley Clifford, a gafodd ei garcharu am oes am lofruddio gyrrwr moped o'r enw Soban Khan yn 2018.

Yn ôl Heddlu Llundain, adeg y llofruddiaeth, roedd Bradley Clifford wedi targedu’r moped cyn taro i mewn iddo, ac fe barhaodd i ymosod ar Mr Khan ar ôl y gwrthdrawiad.

Gwelwyd swyddogion yn y cyfeiriad yn Rendlesham Road, Enfield, gogledd Llundain, mewn perthynas â marwolaethau teulu Mr Hunt.

Roedd staff yr heddlu yn gwisgo menig a masgiau wyneb y tu allan i'r eiddo, gafodd ei archwilio am y tro cyntaf ddydd Mercher.

'Person hardd'

Yn y cyfamser mae cydweithwyr a ffrindiau'r tair aelod o'r teulu a fu farw wedi rhoi teyrnged i “deulu hyfryd”.

Disgrifiodd Lea Holloway, 60, ffrind i Carol Hunt ers yn blentyn, y fam fel “person hardd”.

Wrth siarad y tu allan i Eglwys Sant Iago ddydd Iau ar ôl gwylnos i Mrs Hunt a’i merched, dywedodd: “Fe wnaethon ni dyfu i fyny gyda’n gilydd ac roedden ni’n feichiog ar yr un pryd.

“Dyma’r stwff mae hunllefau wedi’u gwneud ohonyn nhw.

“Roeddwn i yno y noson y cyfarfu â John (Hunt). Roedd mewn clwb nos yn Hemel Hempstead. Aethon ni allan gyda'n gilydd, mynd i benblwyddi a digwyddiadau.

“Mae’n anodd iawn. Hi oedd y person cleniaf, mwyaf caredig, addfwynaf y gallech chi erioed ei chyfarfod. Person hardd.”

'Therapydd gwych'

Mewn neges ar Facebook, dywedodd cydweithwyr Hannah Hunt o'r Anti-Ageing Clinic yn Radlett, Sir Hertford, mai gyda “gofid a thristwch mawr” y clywsant am “lofruddiaeth erchyll nos Fawrth ein therapydd croen Hannah”.

Ychwanegodd y datganiad: “Roedd hi’n therapydd gwych ac roedd cleientiaid yn ei charu.

“Anfonwn ein cydymdeimlad a’n gweddïau at ei Thad, ei chwaer a’i theulu.

“Roedd hi’n rhan fawr o’n tîm. Byddwch yn amyneddgar gyda ni ar yr adeg ofnadwy yma.”

Gadawyd blodau yn Ashlyn Close ddydd Iau, gyda negeseuon yn cynnwys “gorweddwch mewn hedd”.

Cafwyd hyd i Clifford wedi’i anafu ym Mynwent Lavender Hill yn Enfield, gogledd Llundain, ddydd Mercher a chafodd ei gludo i ysbyty i gael triniaeth.

Dywedodd yr heddlu nad oedd unrhyw ergydion wedi'u tanio gan swyddogion ac nad oedd neb wedi ei arestio hyd yma.

Roedd lluniau gan Sky News yn dangos Clifford yn cael ei gludo allan o'r fynwent gan barafeddygon.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.