Sblash yn y Steddfod: Tocynnau i bwll nofio cynta'r maes ar werth
Mae ambell i bwll mwdlyd mwy na’i gilydd wedi bod ar faes yr Eisteddfod dros y blynyddoedd – ond am y tro cyntaf eleni fe fydd yna bwll nofio go iawn.
Bydd maes yr Eisteddfod Genedlaethol ym mis Awst eleni yn gartref i Lido Cenedlaethol Cymru - Lido Ponty.
Ac am y tro cyntaf bydd modd i ymwelwyr i faes yr Eisteddfod fynd â gwisg nofio gyda nhw ar ôl archebu sesiwn nofio yn y Lido sy’n dyddio o 1927.
“Am y tro cyntaf erioed, mae pwll nofio awyr-agored cynnes ar y Maes – ac mae o ar agor drwy gydol yr wythnos!” meddai llefarydd ar ran yr Eisteddfod.
“Gall unrhyw un sydd â thocyn Maes brynu tocyn i archebu sesiwn nofio yn y Lido.”
'Adfail'
Hwn oedd y pwll nofio awyr-agored mwyaf yng Nghymru ar y pryd, ac ar ei fwyaf poblogaidd, byddai hyd at 1,000 o bobl yn ymweld mewn diwrnod, meddai’r Eisteddfod.
“Fe’i caewyd yn swyddogol yn 1991 ar ôl tân difrifol a blynyddoedd o beidio â chael ei gynnal a’i gadw,” meddai llefarydd.
“Gan ei fod yn Adeilad Rhestredig Gradd II, doedd dim modd ei ddymchwel, a chafodd ei adael i adfeilio am flynyddoedd.
"Yn 2013, dechreuwyd ar y gwaith o’i adfer, yn dilyn buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru, Cronfa Datblygu Ranbarthol Ewrop a Chronfa Treftadaeth y Loteri, ac fe’i ail-agorwyd yn 2015."
Bydd Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf yn cael ei chynnal ar Barc Ynysangharad, Pontypridd o 3-10 Awst.