Newyddion S4C

Apêl heddlu wedi i ddyn gael ei ganfod yn anymwybodol yn Aberdâr

10/07/2024
Duke St Aberdar

Mae Heddlu’r De yn apelio wedi i ddyn gael ei ganfod yn anymwybodol yn Aberdâr yn ystod oriau mân fore Mercher.

Cafodd yr heddlu eu galw ychydig wedi 02:30 wedi adroddiadau bod dyn wedi cael ei ganfod yn anymwybodol ar Heol Duke yn y dref.

Roedd y gwasanaethau brys yn bresennol, ac fe gafodd y dyn ei gludo i’r ysbyty lle mae’n parhau mewn cyflwr critigol.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd James Morris: ‘Rydym ni’n cynnal ymchwiliad i’r amgylchiadau ac yn cadw meddwl agored am yr hyn sydd wedi digwydd.

‘Rydym ni angen clywed gan unrhyw un oedd yn yr ardal neithiwr neu yn oriau mân y bore ac a allai fod wedi gweld beth ddigwyddodd.’

Mae’r llu yn gofyn i unrhyw un sydd gan wybodaeth i gysylltu â nhw gan ddefnyddio’r cyfeirnod 2400228468.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.