Newyddion S4C

Bachgen a gafodd ei eni heb ei law chwith yn cael cyfle i gymdeithasu â phlant eraill tebyg

09/07/2024

Bachgen a gafodd ei eni heb ei law chwith yn cael cyfle i gymdeithasu â phlant eraill tebyg

"Ga i ddechra wrth ddiolch i chi gyd am ddod heddiw 'ma.

"Mae'n meddwl lot i ni fel teulu."

Ers i Arthur gael ei eni 10 mis yn ôl heb ei law chwith mae ei rieni wedi bod yn awyddus i ddod i nabod plant eraill a'u teuluoedd sydd â chyflwr tebyg.

Dyma'r cam cynta - cyfle i groesawu teuluoedd ar draws gogledd Cymru i ddigwyddiad arbennig ym Mharc Glynllifon ger Caernarfon.

Fe ddaeth dros 30 o bobl ynghyd, a hynny'n fwy na'r disgwyl.

"Ni mor falch bod pawb wedi troi fyny a phawb mor glên a charedig.

"'Dan ni 'di cyfarfod rŵan so mae hynna allan o'r ffordd.

"'Dan ni'n gallu symud ymlaen.

"'Dan ni'n teimlo bod o'n bwysig bod Arthur yn tyfu i fyny efo plant sydd efo rhywbeth tebyg neu'n mynd drwy'r un peth.

"'Dan ni ar ddechra siwrne ni.

"Mae plant hŷn wedi dysgu ffordd rownd pethe'n barod fel bod gynno fo rywun i edrych i fyny at."

Un arall oedd yno - Lois Jones o Lanllyfni.

Cafodd ei mab Alun, sy'n 10 oed ei eni heb ei fraich dde heibio'r penelin.

"Mae o 'di bod yn wych.

"Mae Alun wedi mwynhau gweld plant ac oedolion eraill fatha fo.

"Mae'n bwysig i blant gael cyfle i deimlo'n normal o bosib.

"Hefyd, mae Alun yn Gymraeg iaith gyntaf sy'n gwneud hi'n anodd o bosib i blentyn gymdeithasu efo Saeson.

"Mae cyfle iddo fo gyfarfod plant bach Cymraeg eraill yn wych."

Sut ti 'di ffeindio heddi?

"Rili hwyl.

"Dw i'n cael gweld plant sydd fel fi oherwydd dw i'm yn gweld nhw'n aml."

Sut mae hynna'n neud i ti deimlo, gweld plant sydd fel ti a chwarae gyda nhw.

"Teimlo'n rili cyfforddus a neis."

Wrth drefnu'r cyfarfod - mae Elliw ac Ilan wedi derbyn cefnogaeth gan elusen o'r enw LimbBo.

Wedi'i lleoli yn Barnsley mae'r elusen yn cynnal sawl digwyddiad yn Lloegr ond y gobaith yw ehangu i gyfarfodydd lleol fel hyn.

"'Sa fo'n grêt cael neud rhywbeth fel hyn bob blwyddyn ac os wneith hyn dyfu a neud o 'chydig mwy na bob blwyddyn neu hyd yn oed bod y plant yn cael cyfarfod os ydyn nhw'n gwybod bod rhywun yn yr un ardal.

"Rhywun i siarad efo nhw, a rhywun sy'n cael be maen nhw'n mynd trwy."

Diwrnod i ddangos i Arthur a rhai o blant eraill gogledd Cymru nad ydyn nhw ar eu pen ei hunain.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.