£3.2m i ddiogelu Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd a Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Mae £3.2m wedi’i glustnodi ar gyfer gwaith cynnal a chadw yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd a Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn ystod y flwyddyn ariannol hon.
Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid ychwanegol er mwyn sicrhau bod sefydliadau diwylliannol Cymru yn cael eu diogelu, medden nhw.
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol, Lesley Griffiths, wedi dweud eu bod nhw wedi gwrando ar bryderon ynghylch y pwysau ariannol ar sefydliadau diwylliannol ac wedi gweithredu i liniaru'r anawsterau hyn.
Wrth ymateb i'r buddsoddiad, dywedodd Prif Weithredwr Amgueddfa Cymru, Jane Richardson: “Mae'r Amgueddfa dros 100 mlwydd oed ac fe'i hadeiladwyd yn benodol i gadw ac arddangos casgliad cenedlaethol arbennig iawn Cymru.
"Rydym wrth ein boddau y bydd y buddsoddiad ychwanegol hwn yn ein galluogi i ddechrau'r gwaith o sicrhau bod y casgliad hwn yn parhau i fod yn hygyrch i bobl Cymru yn ogystal ag ymwelwyr o weddill y DU ac o bob cwr o'r byd."
Dywedodd Prif Weithredwr Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Rhodri Llwyd Morgan ei fod yn croesawu’r buddsoddiad newydd “yn fawr,” gan ddisgrifio casgliad cenedlaethol y llyfrgell “yn drysor.”
"Bydd cwblhau'r gwaith hwn yn golygu bod y casgliadau'n ddiogel yn y tymor hir a byddant yn sicrhau mynediad iddynt i genedlaethau'r dyfodol," meddai.
'Cydnabod pwysigrwydd'
Bydd £500,000 pellach hefyd yn cael ei rhoi er mwyn gwella cyfleusterau storio a diogelu casgliadau pwysig mewn amgueddfeydd ac archifau lleol sy'n adrodd straeon cymunedau ledled Cymru.
Yn ogystal mi fydd cyllid hefyd yn parhau i gael ei fuddsoddi i ailddatblygu safle Amgueddfa Cymru yn Llanberis. a hynny yn y gobaith o greu cyfleoedd ar gyfer gwell mynediad i'r casgliad cenedlaethol yn y gogledd.
Dywedodd Jane Henderson, Llywydd Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Celf Cymru ei bod “wrth ei bodd” bod y llywodraeth wedi “cydnabod pwysigrwydd” gofalu am gasgliadau sydd mewn amgueddfeydd ac archifau lleol.
Mae’r llywodraeth hefyd yn parhau i fuddsoddi yn y gwaith sylweddol o ailddatblygu Theatr Clwyd yn Sir y Fflint ac Amgueddfa Bêl-droed Cymru yn Wrecsam.