Newyddion S4C

Goliau, golff a Glyndŵr - pwy yw rheolwr newydd Cymru, Craig Bellamy?

09/07/2024
Craig Bellamy

Craig Bellamy yw rheolwr newydd tîm pêl-droed Cymru wedi iddo gael ei benodi gan y Gymdeithas Bêl-droed.

Fe sgoriodd Bellamy 19 o goliau mewn 78 o gemau dros Gymru cyn ymddeol o bêl-droed rhyngwladol yn 2013.

Daeth yn agos at gael y swydd yn ôl yn 2018 cyn i'r Gymdeithas benodi Ryan Giggs.

Ond pwy yw’r dyn sydd yn disgrifio bod yn rheolwr ar Gymru yn "anrhydedd"?

Plentyndod

Cafodd Craig Douglas Bellamy ei eni yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd ar 13 Gorffennaf 1979.

Roedd yn byw yn Sblot, cyn i’r teulu symud i Adamsdown yn y brifddinas pan roedd yn bump oed. Roedd ei dad, Douglas yn gefnogwr brwd o glwb Dinas Caerdydd. A dros amser, fe ymunodd Craig ag e i wylio gemau ym Mharc Ninian yn rheolaidd.

Dechreuodd ei ddiddordeb mewn chwarae pêl-droed tra roedd yn ddisgybl yn Ysgol Gynradd Trowbridge Juniors.

Er ei fod yn mynd i sesiynau ymarfer CPD Dinas Caerdydd, doedd e ddim yn aelod o academi'r clwb, ac fe ymunodd â Bristol Rovers pan yn naw oed.

Chwaraeodd i'r clwb am ddwy flynedd cyn i Norwich City ei weld yn chwarae a'i wahodd i'w treialon. Roedd yn llwyddiannus ac fe ymunodd â'r clwb.

Roedd yn teithio i Norwich ar y trên bob dydd Sadwrn cyn symud yno'n barhaol yn 15 oed i fod yn brentis gyda'r clwb.

Gadawodd yr ysgol heb unrhyw raddau TGAU.

Blynyddoedd cynnar ei yrfa

Er i Bellamy hiraethu am fyw yng Nghaerdydd, fe arwyddodd ei gytundeb gyntaf gyda Norwich yn 16 oed, gan ennill cyflog o £250 yr wythnos.

Chwaraeodd ei gêm broffesiynol gyntaf yn 17 oed oddi ar y fainc yn erbyn Crystal Palace yn y Bencampwriaeth, ac fe ddechreuodd i'r clwb am y tro cyntaf fis yn ddiweddarach.

Yn chwaraewr canol cae yn wreiddiol, fe sgoriodd ei gôl gyntaf yn erbyn Bury ym mis Tachwedd 1997, mewn tymor pan sgoriodd 13 gôl mewn 38 gêm.

Pan gafodd Bruce Rioch ei benodi'n rheolwr Norwich yn 1998 fe symudodd Bellamy i safle'r ymosodwr, ac fe sgoriodd ar saith achlysur yn ei wyth ymddangosiad cyntaf o'r tymor, gan gynnwys hat-tric.

Image
Craig Bellamy
Bellamy yn chwarae i Norwich. (Llun: Wochit)

Yn 2000 symudodd i Coventry am £6 miliwn, oedd yn record i'r clwb ar y pryd. Cyfaddefodd ei fod eisiau arwyddo i Newcastle a'i fod yn difaru arwyddo i Coventry.

Flwyddyn yn unig dreuliodd Bellamy gyda'r clwb, cyn symud i Newcastle yn 2001.

Sgorio, sgandals a Souness

Ymunodd Craig Bellamy â Newcastle gyda gobeithion o ennill Uwch Gynghrair Lloegr, ond oherwydd anafiadau, roedd bod yn rhan o'r tîm yn cyflawni hynny yn heriol.

Roedd ganddo broblemau gyda'i ben-glin ac roedd nifer o lawdriniaethau yn golygu nad oedd yn chwarae am gyfnod o fisoedd ar adegau.

Yn ystod cyfnod o bum mlynedd gyda'r clwb, fe sgoriodd 51 o goliau ac fe enillodd Chwaraewr Ifanc y Tymor yn yr Uwch Gynghrair yn 2002. 

Ond roedd ei weithgareddau oddi ar y cae yn hawlio'r penawdau hefyd.

Cafodd rybudd gan yr heddlu am achos o ymosod, wedi honiadau iddo daflu myfyrwraig allan o gar cyn ei chicio.

Roedd yn ymwneud â ffrae y tu allan i glwb nos yng Nghaerdydd. Gwadodd Bellamy gyhuddiad iddo wneud sylwadau hiliol.  

Ym mis Mawrth 2004, fe wnaeth y cyfryngau adrodd fod Bellamy wedi taflu cadair at hyfforddwr y tîm cyntaf, John Carver, ar ôl ffrae gyhoeddus rhwng y pâr.

Image
Craig Bellamy
Fe wnaeth Craig Bellamy ddioddef sawl anaf drwg yn ystod ei yrfa. (Llun: Wochit)

Daeth cyfnod Bellamy gyda'r clwb i ben pan ddaeth Graeme Souness yn rheolwr. 

Roedd anghydfodau cyson rhwng y ddau, gan gynnwys Souness yn honni bod Bellamy yn gwrthod chwarae. Yn ddiweddarach, cafodd y Cymro ei werthu.

Ymunodd â Celtic ar fenthyg ym mis Ionawr 2005 lle enillodd Gwpan Yr Alban, cyn arwyddo i Blackburn Rovers yn haf y flwyddyn honno.

Mark Hughes oedd wrth y llyw ac fe adeiladodd garfan ymosod y tîm o gwmpas Bellamy. Dywedodd Bellamy bod presenoldeb y ddau Gymro, Hughes a Robbie Savage, wedi dylanwadu ar ei benderfyniad i arwyddo.

Sgoriodd 17 o weithiau yn ei dymor cyntaf yno wrth i Rovers orffen yn 6ed yn y gynghrair.

Lerpwl a Manchester City

Symudodd Craig Bellamy i Lerpwl yn 2006, clwb yr oedd wedi ei gefnogi ers yn blentyn.

Roedd y symudiad i'r clwb yn "freuddwyd" iddo ac fe sgoriodd ar ei ymddangosiad cyntaf yng Nghynghrair y Pencampwyr, yn erbyn Maccabi Haifa.

Ym mis Chwefror 2007, roedd adroddiadau am Bellamy yn cwffio gydag amddiffynnwr Lerpwl, John Arne Riise, yn ystod sesiwn ymarfer cyn chwarae yn erbyn Barcelona.

Aeth y Cymro i mewn i ystafell Riise gyda chlwb golff a'i fwrw ar ei ben-ôl, ond nid yn galed.

Image
Craig Bellamy
Craig Bellamy yn ystod ei gyfnod cyntaf gyda Lerpwl. (Llun: Wochit)

Dywedodd Riise ei fod yn fwy ffyrnig na hynny a bod Bellamy wedi ei daro sawl gwaith. Ymddiheurodd Bellamy iddo.

Yn y gêm yn erbyn Barcelona fe sgoriodd Bellamy ac fe wnaeth e ddathlu trwy esgus chwifio clwb golff.

Roedd y clwb wedi cyrraedd rownd derfynol y gystadleuaeth honno, ond ni chwaraeodd Bellamy ac fe ddywedodd rheolwr Lerpwl, Rafael Benitez ei fod yn rhydd i adael y clwb ar ddiwedd y tymor.

West Ham oedd ei glwb nesaf, ond roedd ei dymor cyntaf gyda'r clwb yn un anodd oherwydd anafiadau.

Roedd angen llawdriniaeth arno oherwydd roedd ganddo arthritis, a chwaraeodd wyth gêm yn unig y tymor hwnnw.

Cynyddodd y problemau idddo y tymor nesaf. Roedd diddordeb ynddo gan nifer o glybiau gwahanol ond fe arwyddodd i Manchester City am tua £14 miliwn.

Yn anffodus i Bellamy, nid oedd yr anafiadau yn gwella ac roedd nifer y munudau ar y cae yn lleihau iddo oherwydd hynny. Chwaraeodd wyth gêm yn unig yn ystod ei dymor cyntaf ond fe chwaraeodd lawer mwy y tymor wedyn.

Image
Craig Bellamy
Dathlu ar ôl sgorio i Manchester City. (Llun: Wochit)

Roedd yn rhan o dîm Manchester City oedd yn anelu i ennill Uwch Gynghrair Lloegr ond roedd y clwb yn aflwyddiannus yn ystod ei gyfnod yno.

Fe ddaeth ei amser ym Manceinion i ben wedi i Mark Hughes cael ei ddiswyddo a Roberto Mancini ei benodi. Cyflwynodd yr Eidalwr sesiynau ymarfer dwbl ac nid oedd Bellamy yn gallu ymdopi oherwydd ei hanes gydag anafiadau.

Gadawodd y clwb a dechreuodd ymarfer gyda CPD Dinas Caerdydd.

Dychwelyd i'r brifddinas

Dychwelodd y Cymro i'w ddinas enedigol ar fenthyg o Manchester City ym mis Awst 2010, ac roedd yn gapten y tîm am y tymor.

Chwaraeodd i'r clwb yn y Bencampwriaeth, gyda City yn parhau i dalu £50,000 o'r cyflog o £85,000 yr oedd yn ennill gyda nhw, er mwyn iddo chwarae i Gaerdydd.

Roedd Bellamy wedi cyflogi Raymond Verheijen, cyn-hyfforddwr ffitrwydd gyda Manchester City i helpu gyda'i ffitrwydd, ac fe chwaraeodd ran bwysig wrth i Gaerdydd ennill lle yng ngemau ail-gyfle'r Bencampwriaeth.

Image
Craig Bellamy
Capten Craig: Chwarae i Gaerdydd yn y Bencampwriaeth. (Llun: Asiantaeth Huw Evans)

Er ei fod wedi mynegi ei ddymuniad i aros yng Nghaerdydd, arwyddodd i Lerpwl am yr eildro yn 2011, ond nid oedd yn chwarae'n gyson oherwydd ei ffitrwydd.

Roedd yn dod oddi ar y fainc yn aml, gan gynnwys yn rownd derfynol Cwpan Carling yn erbyn Caerdydd. Enillodd Lerpwl y gêm ar ôl ciciau o'r smotyn.

Wedi i'w ail gyfnod yng Nglannau Mersi ddod i ben, fe benderfynodd Bellamy symud yn ôl i Gaerdydd yn barhaol.

Roedd yn rhan allweddol o'r tîm wrth iddynt ennill y Bencampwriaeth a sicrhau lle yn Uwch Gynghrair Lloegr am y tro cyntaf.

Disgrifiodd Bellamy hynny fel cyflawni "breuddwyd amhosib" ac roedd yn rhan o'r garfan yn ystod ei unig flwyddyn yn y gynghrair.

Penderfynodd ymddeol ym mis Mai 2014.

Cymru

1998 oedd y tro cyntaf i Bellamy fod yn rhan o garfan tîm cyntaf Cymru yn dilyn blynyddoedd yn y timau iau.

Chwaraeodd ei gêm gyntaf oddi ar y fainc yn erbyn Jamaica ym Mharc Ninian fis Mawrth 1998, cyn sgorio ei gôl ryngwladol gyntaf yn erbyn Malta ym Mehefin.

Dan arweiniad Mark Hughes, fe sgoriodd Bellamy y gôl fuddugol mewn gêm hanesyddol yn erbyn Yr Eidal yn y Stadiwm y Mileniwm.

Er i'r fuddugoliaeth honno a rhai eraill yn erbyn y Y Ffindir ac Azerbaijan eu rhoi mewn sefyllfa dda, ni lwyddodd Cymru i gyrraedd Cwpan y Byd yn yr ymgyrch honno.

Camodd Hughes i lawr o'i swydd yn 2004 ac fe wnaeth John Toshack gymryd ei le.

Cafodd Bellamy ei benodi'n gapten dan Toshack tra roedd Ryan Giggs wedi ei anafu, ac fe gafodd ei benodi'n gapten parhaol wedi i Giggs ymddeol yn 2007.

Image
Craig Bellamy a Gary Speed
Craig Bellamy a Gary Speed yn canu Hen Wlad fy Nhadau. (Llun: Asiantaeth Huw Evans)

Oherwydd problemau gyda'i ben-glin, collodd Bellamy nifer o gemau dros ei wlad, ac roedd yn ystyried ymddeol yn 2010, cyn i'r rheolwr newydd, Gary Speed, ei berswadio i barhau.

Chwaraeodd tan fis Hydref 2013 cyn penderfynu ymddeol o bêl-droed rhyngwladol â 78 cap a 19 o goliau.

Hyfforddi 

Dechreuodd ei yrfa rheoli gyda thîm dan 18 Caerdydd, cyn cyfnod fel rheolwr tîm dan 21 RSC Anderlecht yng Ngwlad Belg ac yna fel rheolwr cynorthwyol i'r tîm cyntaf yno, dan arweiniad Vincent Kompany.

Symudodd Bellamy gyda Kompany i Burnley, gan dreulio dau dymor yn Turf Moor, cyn i'r dyn o wlad Belg adael i fod yn rheolwr Bayern Munich.

Penderfynodd Bellamy i beidio aros ymlaen yn rhan o dîm hyfforddi rheolwr newydd Burnley, Scott Parker, ac fe gafodd ei benodi'n rheolwr Cymru ddydd Mawrth.

Bydd gêm gyntaf Bellamy yn ei swydd newydd, ddydd Gwener 6 Medi yn erbyn Twrci yn Stadiwm Dinas Caerdydd, lle bydd Cymru yn dechrau eu hymgyrch yng Nghynghrair y Cenhedloedd UEFA.

Llun: Asiantaeth Huw Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.