Rhybudd melyn am fellt a tharanau i ran helaeth o Gymru
09/07/2024
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am fellt a tharanau i ran helaeth o Gymru ddydd Mawrth.
Fe fydd y rhybudd yn dod i rym am 14:00 ac yn parhau hyd at hanner nos.
Fe allai glaw trwm arwain at lifogydd mewn mannau gan effeithio ar gartrefi, adeiladau a busnesau.
Mae'n debygol y bydd hyn yn effeithio ar amodau gyrru o achos glaw trwm gan arwain at deithiau hirach ar hyd y ffyrdd.
Mae'r rhybudd yn berthnasol i'r ardaloedd canlynol:
- Blaenau Gwent
 - Caerffili
 - Sir Gaerfyrddin
 - Ceredigion
 - Conwy
 - Sir Ddinbych
 - Sir y Fflint
 - Gwynedd
 - Merthyr Tudful
 - Sir Fynwy
 - Nedd Port Talbot
 - Powys
 - Rhondda Cynon Taf
 - Torfaen
 - Wrecsam