Dyn wedi marw mewn canolfan ailgylchu yng Nghaerdydd
Mae dyn wedi marw yn dilyn digwyddiad mewn canolfan ailgylchu yng Nghaerdydd.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Ganolfan Ailgylchu Atlantic brynhawn dydd Llun, yn dilyn adroddiadau bod dyn wedi ei anafu yno.
Mewn datganiad byr ddydd Mawrth, dywedodd Heddlu'r De bod dyn wedi marw a bod ei deulu wedi cael gwybod am y newyddion trist.
Mae'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch wedi cael gwybod am y digwyddiad ac mae ymchwiliad i'r hyn ddigwyddodd yn parhau.
Mewn datganiad a rannwyd gyda Wales Online, dywedodd llefarydd ar ran Dauson Environmental Group, sydd yn rhedeg y safle: “Gall Dauson Environmental Group gadarnhau bod digwyddiad wedi digwydd ddydd Llun Gorffennaf 8 2024 yn ymwneud â chontractwr yn gwneud gwaith cynnal a chadw ar safle Atlantic Recycling yng Nghaerdydd.
“Rydym yn parhau i gefnogi’r gwasanaethau brys a rheoleiddwyr gyda’u hymchwiliadau parhaus ar hyn o bryd.”
Llun: Google