Y Seintiau Newydd yn ‘barod’ am her pencampwyr Montenegro, FK Dečić
Mae’r Seintiau Newydd (YSN) wedi gwneud y gwaith cartref ynglŷn â'u gwrthwynebwyr yng Nghwpan y Pencampwyr, FK Dečić, yn ôl eu rheolwr Craig Harrison.
Bydd pencampwyr Cymru yn croesawu pencampwyr Montenegro i Neuadd y Parc nos Fawrth yng nghymal cyntaf rownd ragbrofol y gystadleuaeth (19.00).
Nod y tîm o Groesoswallt, yn ôl Harrison, yw bod y tîm cyntaf o uwch gynghrair y Cymru Premier JD i gyrraedd rownd y grŵp yn un o gystadlaethau Ewrop.
Pe bai’r Seintiau yn llwyddiannus yn erbyn Dečić, fe fydden nhw’n wynebu pencampwyr Hwngari, Ferencvaros yn yr ail rownd. Fe fydden nhw hefyd yn ennill o leiaf €350k yn ychwanegol fel gwobr.
Dywedodd Craig Harrison, rheolwr Y Seintiau Newydd (YSN): “Rydan ni wedi gwylio pob un o’u gemau'r tymor diwethaf. Rydan ni wedi gwneud cymaint o ymchwil a fydden ni wedi gallu ei wneud...
"Mae perchennog y clwb, Mike Harris, yn berson uchelgeisiol. Dwi yn uchelgeisiol a da ni eisiau ein chwaraewyr i fod yn uchelgeisiol.
“Rydan ni eisiau bod y clwb Cymreig cyntaf i gyrraedd y rownd grŵp mewn cystadleuaeth yn Ewrop a does neb wedi ceisio osgoi hynny. Mae pawb yn barod am yr her."
Wedi iddyn nhw chwarae 78 o gemau yn Ewrop yn y gorffennol, mae gan YSN fwy o brofiad yn Ewrop na FK Dečić, sydd ond wedi chwarae dwy rownd flaenorol yn Ewrop, gan golli’r ddwy rownd hynny.
“Mae’r staff a’r chwaraewyr yn deall y pwysau i ennill gemau,” ychwanegodd Harrison.
“Yn 99% o’r gemau ry’n ni’n chwarae, mae’r disgwyl i ennill yn uwch na’r timoedd eraill. Felly mae gennym ni brofiad da o’r pwysau yna.
“Gobeithio y bydd ein cynllun yn llwyddiannus. Mae’n gyfle i ni osod y safon rydan ni eisiau chwarae, a heb os, mi fyddwn ni’n herio Dečić.”