Newyddion S4C

Rygbi: Y Gweilch yn cyhoeddi mai maes Sain Helen fydd eu cartref newydd

08/07/2024
Stadiwm Sain Helen

Mae'r Gweilch wedi cyhoeddi mai maes Sain Helen fydd cartref newydd y clwb.

Bydd y Gweilch yn symud o stadiwm Swansea.com, lle maen nhw'n rhannu adnoddau gyda Chlwb Pêl-droed Abertawe, i Sain Helen erbyn dechrau tymor 2025/26.

Sain Helen yn Abertawe a Chae Bragdy Dunraven ym Mhen-y-bont ar Ogwr oedd ar frig eu rhestr wrth chwilio am gartref newydd.

Cyngor Sir Abertawe yw perchennog y cae ac mae'r Gweilch yn dweud y bydd yn gweithio gyda'r cyngor i adeiladu cae 4G ac eisteddleoedd newydd.

Image
Sain Helen Gweilch

Dywedodd Lance Bradley, Prif Weithredwr y Gweilch bod y penderfyniad yn dangos hyder y clwb yn nyfodol rygbi yng Nghymru.

"Mae symud i faes rydym yn gallu galw ein cartref yn drawsnewidiol i bawb sydd yn ymwneud â'r clwb, gan gynnwys y chwaraewyr, staff, cefnogwyr a noddwyr.

"Mae ein buddsoddiad yn dangos ein hyder nid yn unig yn ein cynlluniau ar y cae ac oddi ar y cae, ond hefyd ein hyder yn nyfodol rygbi yng Nghymru a chynlluniau Undeb Rygbi Cymru."

'Profiad dihafal'

Bydd y Gweilch yn buddsoddi miliynau o bunnoedd er mwyn adnewyddu a gwella maes Sain Helen.

Yn ogystal ag adeiladu cae 4g ac eisteddleoedd newydd bydd y clwb yn adnewyddu'r tŷ clwb a chreu ardal newydd i gefnogwyr ymgasglu cyn gemau.

Dywedodd y clwb mai'r nod yw i "greu profiad dihafal i gefnogwyr ar ddiwrnodau'r gemau."

Image
Sain Helen Gweilch

Bydd Clwb Rygbi Abertawe a Thîm Rygbi Prifysgol Abertawe, sydd yn defnyddio'r maes ar gyfer gemau, yn parhau i'w defnyddio ar ôl i'r Gweilch symud yno.

Ychwanegodd y Gweilch y bydd Clwb Criced Abertawe, sydd hefyd yn defnyddio'r maes, yn gwneud cyhoeddiad maes o law am eu cynlluniau yn dilyn trafodaethau.

Llun: Asiantaeth Huw Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.