Newyddion S4C

Teulu Jay Slater yn bwriadu parhau i chwilio ar ôl codi dros £50,000

07/07/2024
Jay Slater

Mae teulu dyn aeth ar goll yn Tenerife yn dweud eu bod nhw’n bwriadu parhau i chwilio amdano ar ôl codi dros £50,000.

Mae wythnos wedi mynd heibio ers i Guardia Civil yr ynys benderfynu dod â'r chwilio i ben bron i bythefnos ers iddo ddechrau.

Dywedodd mam Jay Slater, Debbie Duncan, ddydd Sul eu bod wedi cael eu “synnu” gan y gefnogaeth.

Fe gyhoeddodd neges newydd ar dudalen Go Fund Me yr ymgyrch i ddod o hyd i Jay Slater sydd wedi codi £51,000.

Dywedodd Debbie Duncan fod grwpiau gwirfoddol lleol wedi cynnig parhau i chwilio a’u bod hefyd mewn cysylltiad â “grwpiau profiadol” sydd wedi cynnig cymorth.

“Mae grŵp gwych o bobl leol sydd wedi gwirfoddoli i barhau â’r chwilio wedi cysylltu â ni,” meddai.

“Er nad ydyn nhw am dderbyn cymorth ariannol ar gyfer y gwaith o chwilio, byddwn yn eu cefnogi ac rydym mor ddiolchgar am eu parodrwydd i helpu. 

“Mae grwpiau profiadol hefyd yn parhau i gysylltu â ni gan gynnig cefnogi'r chwilio.

“Rydyn ni’n brysur yn siarad â nhw am beth allen nhw ei wneud i helpu. 

“Ond er mwyn i ni allu cael eu cymorth, mae angen iddyn nhw gael caniatâd awdurdodau Sbaen.”

Dywedodd y Guardia Civil wrth SkyNews y gallai grwpiau chwilio allanol ddod i helpu “heb unrhyw broblem” ond bod yn rhaid iddyn nhw roi gwybod i’r awdurdodau.

Dywedon nhw nad ydyn nhw wedi derbyn cais eto.

Anghysbell

Fe welwyd Mr Slater ddiwethaf ar lwybr ar dir mynyddig ym mharc cenedlaethol Rural de Teno.

Mae ffrindiau a theulu Mr Slater wedi dweud ei fod wedi gadael y grŵp y bu'n teithio gyda nhw yn gynharach yn nhref Playa de las Americas yn ne’r ynys.

Ar ôl gadael gŵyl gerddoriaeth NRG yng nghlwb nos Papagayo, aeth i mewn i gar gyda dau ddyn roedd wedi eu cyfarfod i yrru i'r parc cenedlaethol yng ngogledd-orllewin Tenerife.

Y bore canlynol fe'i gwelwyd yn gofyn am amseroedd bws o'r pentref anghysbell, cyn iddo ddechrau cerdded i'r cyfeiriad anghywir oedd yn ei arwain i ffwrdd o Playa de las Americas.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.