Newyddion S4C

Rhybudd melyn am stormydd i rannau o'r gogledd

04/07/2021
Storm

Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am stormydd i fannau yn y gogledd ddwyrain.

Mae'r rhybudd mewn grym tan 23.59 nos Sul.

Gogledd ddwyrain y wlad fydd yn gweld y gwaethaf o'r storm, gan gynnwys rhannau o Wrecsam, Sir y Fflint, Sir Ddinbych a Sir Conwy.

Yn ôl y Swyddfa Dywydd, fe all y storm achosi gwyntoedd cryfion, gyda phosibilrwydd o achosi oedi ar y ffyrdd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.