Dyn o Fangor wedi ei garcharu am ymosod ar ddynes o flaen ei phlant
Mae dyn 35 oed o Fangor wedi ei garcharu am 18 mis am ymosod ar ddynes mewn clwb nos ac yna o flaen ei phlant yn ei chartref.
Fe wnaeth Jacob Celt Taylor, o Rodfa’r Frenhines, Maesgeirchen, Bangor, ymosod ar y ddynes yn ystod oriau mân ddydd Sul 5 Mai, gan achosi anafiadau i’w phen-glin a’i brest.
Fe wnaeth gyfaddef yn Llys y Goron, Caernarfon o ymosod drwy guro, ymosod gan achosi niwed corfforol a difrod troseddol.
Yn ystod oriau mân 5 Mai, cafodd Taylor ei daflu allan o glwb nos ym Mangor ar ôl penio’r ddynes tra roedden nhw allan am y noson.
Yn dilyn hyn fe barhaodd i ymosod arni hi yn ei chartref, gan ei phwnio a’i phenio dro ar ôl tro o flaen ei phlant.
Fe geisiodd y ddynes ddianc o’r tŷ, gan alw am help, ond mi ddaliodd Taylor hi, ac mi barhaodd i’w phwnio, gan achosi iddi hi ddisgyn ac anafu ei phen-glin.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl, Kelly Wynne: “’Dwi’n cymeradwyo dewrder y dioddefwr am ddod atom ni a riportio hyn ar ôl profiad wirioneddol frawychus. Ei dewrder hi sydd wedi arwain at ei ddedfryd heddiw.
“Mae effaith yr hyn a wnaeth Taylor iddi hi yn ddifesur ac ni ellir bychanu hynny.
“’Da ni’n ymroddgar yn cynorthwyo dioddefwyr o bob math o gam-drin, ac mi wnawn ni gymryd pob cwyn o ddifri. Gofynnwch am help os ‘da chi ei angen.”