Newyddion S4C

Syr Tom Jones i berfformio i filoedd o bobl yng Nghas-gwent

06/07/2024
Tom Jones.png

Bydd Syr Tom Jones yn perfformio o flaen torf o tua 30,000 yn Sir Fynwy nos Sadwrn.

Daw ei gyngerdd ar gae rasio ceffylau Cas-gwent ychydig ddyddiau ar ôl iddo gychwyn wythnos o berfformiadau byw yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen.

Y gig "gwirioneddol fythgofiadwy" oedd ymddangosiad cyntaf Syr Tom, sy’n 84 oed, yn yr ŵyl gerddoriaeth sydd wedi bod yn rhedeg ers 77 mlynedd.

Mae cefnogwyr Syr Tom sy’n mynychu ei gyngerdd yng Nghas-gwent ar y trên yn wynebu rhywfaint o anhawsterau, gyda thwnnel rheilffordd Hafren ar gau tan 19 Gorffennaf.

Fe wnaeth Shania Twain berfformio yng Nghas-gwentnos Wener - ei gig cyntaf yng Nghymru - yn dilyn ei pherfformiad yn Glastonbury yn ddiweddar.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.