Newyddion S4C

Cymru'n colli i Awstralia yn Sydney

06/07/2024

Cymru'n colli i Awstralia yn Sydney

Fe gollodd Cymru'r gêm brawf gyfeillgar 25-16 yn erbyn Awstralia yn Sydney ddydd Sadwrn.

Dyma oedd y tro cyntaf i Gymru chwarae yn erbyn Awstralia ers iddyn nhw eu trechu 40-6 yng Nghwpan Rygbi'r Byd ym mis Hydref 2023.

Dim ond unwaith y mae Cymru wedi ennill yn erbyn y Wallabies yn Awstralia, ac roedd hynny yn 1969. 

Erbyn hyn, mae nhw nawr wedi colli 12 o weithiau yn olynol.

Roedd Cymru wedi colli saith gêm yn olynol cyn y gêm yma gan gynnwys pob un gêm yn y Chwe Gwlad.

Roedd y ddau dîm yn cystadlu am Dlws James Bevan.

James Bevan oedd capten cyntaf tîm rygbi Cymru yn 1881. Cafodd ei eni yn Awstralia cyn cael ei ddanfon nôl i Gymru ar ôl i’w rieni oedd wedi mudo o Gymru farw.

Fe gannwyd Hen Wlad Fy Nhadau cyn y gêm gan gôr meibion Cantorion Sydney.

Fe aeth Cymru ar y blaen o fewn tair munud gyda chic gosb gan y maswr Ben Thomas. Awstralia 0-3 Cymru.

Ond fe darodd Awstralia nôl ar ôl chwe munud gyda chic gosb gan y maswr Noah Lolesio. Awstralia 3-3 Cymru.

Fe fethodd Lolesio gic gosb gymharol rhwydd ar ôl i Gymru gael eu cosbi am gamsefyll.

Ond fe ddaeth cyfle arall i Lolesio yn gynnar wedyn pan chwalwyd sgrym Cymru. Awstralia 6-3 Cymru.

Amddiffyn oedd prif orchwyl Cymru yn y chwarter agoriadol wrth i ddiffyg disgyblaeth ildio ciciau cosb gan roi'r cyfle i Awstralia ymosod.

Doedd dim syndod felly pan ddaeth cais cyntaf i Awstralia gan y prop 135kg Taniela Tupou gyda Lolesio yn trosi. Fe dderbyniodd prop Cymru Gareth Thomas gerdyn melyn yn dilyn hyn. Awstralia 13-3 Cymru.

Fe lwyddodd asgellwr Cymru Rio Dyer i dirio’r bêl dros linell gais Awstralia ond ni chafodd y cais ei ganiatáu.

Ond fe ddaeth cyfle arall i Gymru wrth i'w blaenwyr hyrddio at y llinell gais o lein a dyfarnwyd cais cosb i'r crysau cochion. Tro Awstralia oedd i dderbyn cerdyn melyn y tro hwn gyda'r blaenasgellwr Fraser McReight yn derbyn 10 munud yn y cell cosb. Awstralia 13-10 Cymru ar yr egwyl.

Dechrau da

Cymru ddechreuodd yr ail hanner orau gan ymosod ar hyd yr asgell dde ac fe diriodd Awstralia'r bêl o gic gan gefnwr Cymru Liam Williams. 

Fe gafodd Cymru'n sgrym bump o ganlyniad i hynny. 

Roedd y sgrym yn destun pryder i Gymru yn yr hanner cyntaf ond fe lwyddwyd i ennill y bêl y tro hwn er nad oedd gan yr asgellwr Josh Hathaway ddigon o le i symud yn y gornel.

Fe giciodd Thomas gôl gosb arall i Gymru i ddod â'r sgôr yn gyfartal ar ôl 46 munud. Awstralia 13-13 Cymru.

Daeth cyfnod o bwysau gan Awstralia yn dilyn hyn wrth i'w blaenwyr fynd drwy'r cymalau ond fe wnaeth ail reng Cymru Chris Tshiunza waith da ar y llinell gais i rwystro'r ymwelwyr gafodd eu cosbi.

Yn anffodus fe gollodd Cymru'r lein gan roi cyfle i Awstralia ymosod eto ac fe lithrodd yr asgellwr chwith Filipo Daugunu drosodd ar y dde am ail gais ei wlad yn y gêm ar ôl 52 munud. Awstralia 18-13 Cymru.

Nid oedd Cymru am ildio ac fe gafodd Awstralia eu cosbi unwaith eto. 

Fe giciodd Cymru am yr ystlys ac o'r lein fe groesodd yr eilydd James Botham, oedd newydd ddod i'r cae, o dan bentwr o flaenwyr. Ond diddymwyd y cais oherwydd bod Cymru wedi rhwystro yn y symudiad.

Fe ddaeth Awstralia yn syth i fyny'r cae ac roedd yr asgellwr Andrew Kellaway o fewn trwch blewyn i ddal cic letraws Lolesio fyddai wedi rhwbio halen yn y briw yn sicr yn erbyn Cymru.

Fe giciodd Thomas gôl gosb arall i ddod â Chymru o fewn dau bwynt ar ôl 66 munud. Awstralia 18-16.

Ond yn fuan wedyn fe dorrodd cefnwr Awstralia Tom Wright drwodd ar yr hanner gan redeg 50 medr i sgorio. Fe ychwanegodd yr eilydd Tom Lynagh, mab y cyn-faswr Michael, y trosiad i ymestyn blaenoriaeth Awstralia. Awstralia 25-16 Cymru.

Daeth cyfle i Gymru ymosod a bu bron i Hathaway dirio yn dilyn cic fach yr eilydd Sam Costelow gyda phum munud yn weddill.

Ond unwaith eto roedd diffyg disgyblaeth yn llesteirio ymdrechion Cymru wrth iddyn nhw golli sawl lein ac o'r herwydd nifer o gyfleoedd i wrthymosod.

Y sgôr terfynol: Awstralia 25-16 Cymru.

Llun: Asiantaeth Huw Evans
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.