Newyddion S4C

Rhybudd i deithwyr yn dilyn damwain ‘ddifrifol’ ar draffordd yr M4

06/07/2024
Heddlu.

Roedd  Heddlu De Cymru wedi rhybuddio gyrwyr i osgoi darn o draffordd yr M4 fore dydd Sadwrn wrth iddyn nhw ddelio gyda damwain “ddifrifol”.

Roedd lonydd 2 a 3 o’r draffordd wedi cau i gyfeiriad y gorllewin rhwng cyffyrdd 35 Pencoed a 36 Sarn am gyfnod yn ystod y bore yn dilyn y ddamwain.

Roedd y llu wedi cynghori teithwyr i osgoi’r ardal ac roedd y lonydd ar gau am rai oriau.

Ychwanegodd y llu eu bod nhw’n gwerthfawrogi amynedd teithwyr wrth iddyn nhw ddelio gyda’r ddamwain.

Bu’n rhaid cau lôn y draffordd i’r dwyrain rhwng cyffyrdd 27 a 26 Malpas brynhawn dydd Sadwrn cyn ei hail agor yn hwyrach.

Dywedodd Heddlu Gwent fod y gwasanaethau brys wedi bod yn delio gyda damwain ac wedi cynghori gyrwyr i osgoi’r ardal.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.