Newyddion S4C

Arlywydd newydd Iran Massoud Pezeshkian yn addo newidiadau

06/07/2024
Massoud Pezeshkian

Mae Massoud Pezeshkian, llawfeddyg 71 oed, wedi addo newidiadau ar ôl cael ei ethol yn arlywydd newydd Iran.

Enillodd 53.3% o’r bleidlais dros 44.3% ei wrthwynebydd ceidwadol Saeed Jalili yn ail rownd yr etholiad.

Cafodd yr ail rownd ei chynnal ar ôl i’r un ymgeisydd fethu sicrhau mwyafrif yn rownd gyntaf yr etholiad ar 28 Mehefin.

Galwyd yr etholiad ar ôl i gyn-arlywydd Iran, Ebrahim Raisi, gael ei ladd mewn damwain hofrennydd ym mis Mai.

Mae Dr Pezeshkian, sydd wedi bod yn feirniadol o heddlu moesoldeb Iran, wedi addo “uno” y bobl a pheidio ag “ynysu” Iran o’r byd .

Mae hefyd wedi galw am “drafodaethau adeiladol” gyda gwledydd y Gorllewin dros adnewyddu cytundeb niwclear 2015.

Bryd hynny fe gytunodd Iran i ffrwyno ei rhaglen niwclear os oedd sancsiynau gwledydd y gorllewin yn cael eu lleddfu.

Roedd ei wrthwynebydd, Saeed Jalili, yn ffafrio parhau'r drefn bresennol. Roedd yn mwynhau cefnogaeth gref ymhlith cymunedau mwyaf crefyddol Iran.

Dim ond 50% a bleidleisiodd yn yr etholiad ond dywedodd yr Arweinydd Goruchaf Ayatollah Ali Khamenei nad oedd hynny’n awgrymu fod pobl wedi cael llond bol o’r drefn bresennol.

“Mae yna resymau y tu cefn i’r nifer isel sy’n pleidleisio a bydd gwleidyddion a chymdeithasegwyr yn eu harchwilio,” meddai.

“Ond os oes unrhyw un yn meddwl bod y rhai na phleidleisiodd yn erbyn y sefydliad, maen nhw’n amlwg yn anghywir.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.