Newyddion S4C

Cadarnhau Jo Stevens fel Ysgrifennydd Cymru

05/07/2024
Jo Stevens

Mae Jo Stevens wedi’i phenodi’n Ysgrifennydd Cymru. 

Daw wrth i Syr Keir Starmer ddechrau cyhoeddi aelodau o’i Gabinet newydd wedi iddo gael ei gadarnhau fel Prif Weinidog. 

David TC Davies oedd yr ysgrifennydd blaenorol dan lywodraeth Rishi Sunak, ag yntau wedi bod yn y swydd ers 2022. 

Cyn yr etholiad, Jo Stevens oedd Ysgrifennydd Gwladol Cysgodol Cymru. Roedd hi wedi bod yn y swydd honno ers Tachwedd 2021. 

Cyn hynny, roedd hi'n Ysgrifennydd Gwladol yr Wrthblaid dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon. 

Ms. Stevens yw Aelod Seneddol etholaeth newydd Dwyrain Caerdydd. Cyn hynny, roedd hi wedi cynrychioli  Caerdydd Canolog yn San Steffan ers 2015.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.