Sinn Fein yn dathlu wedi noson ddramatig yng Ngogledd Iwerddon
Sinn Fein ydi'r brif blaid yng Ngogledd Iwerddon ar ôl noson ddramatig yn y dalaith.
Am y tro cyntaf erioed, Sinn Fein sydd a'r nifer uchaf o seddi'r dalaith yn San Steffan, er nad ydi'r blaid weriniaethol yn cymryd eu seddi yn Llundain.
Mae ganddyn nhw 7 sedd, gyda'r Unoliaethwyr Democrataidd (DUP) yn ail efo 5 sedd, cenedlaetholwyr yr SDLP efo 2, ac un sedd yr un i bleidiau Unoliaethwyr Ulster, TUV, yr Alliance, ac Annibynnol.
Prif stori'r noson oedd tranc Ian Paisley Jnr yng Ngogledd Antrim - sedd sydd wedi bod ym meddiant teulu'r Paisley ers 1970. Roedd hon yn un o dair sedd wnaeth y DUP golli dros nos.
Mewn canlyniad annisgywl arall , llwyddodd Sorcha Eastwood o blaid ganolig yr Alliance i ennill sedd Lagan Valley, cyn-etholaeth cyn-arweinydd y DUP Syr Jeffrey Donalson, wnaeth ymddiswyddo wedi iddo gael ei gyhuddo o droseddau rhywiol hanesyddol.
Dywedodd arweinydd Sinn Féin Mary Lou McDonald ei bod hi'n benderfynol o greu "perthynas adeiladol gyda'r llywodraeth Lafur newydd."